P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif Hylendid Bwyd
P-05-806 Rydym yn galw am roi rhif
Tystysgrif Mynediad i bob safle busnes yng Nghymru, yn debyg i'r Dystysgrif
Hylendid Bwyd
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Bridgend Coalition of Disabled People, ar ôl casglu 3,040 o lofnodion – 649 ar bapur a 2,391ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i gyflwyno "Tystysgrif Mynediad" yn dangos rhifau o ddim
i bump yn yr un modd â'r Dystysgrif Hylendid Bwyd. Dylid asesu pob adeilad a
ddefnyddir gan y cyhoedd fel siopau, siopau bwyd, clybiau chwaraeon, tafarndai
a swyddfeydd, yn ogystal â gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, yn ôl pa mor
hygyrch pa mor hygyrch ydynt i gadeiriau olwyn, yn ogystal â pha mor hawdd
ydynt i rywun sydd â nam ar y synhwyrau neu anabledd dysgu eu defnyddio.
Rydym eisiau i bob safle busnes gael rhif i'w arddangos i ddangos sut mae ei
adeiladau yn ystyried pobl anabl. Rydym yn gobeithio y bydd y rheini sy'n cael
sgoriau uchel yn darbwyllo safleoedd cyfagos i wella mynediad ac ennill sgôr
uchel eu hunain.
Pan gyflwynwyd
Tystysgrifau Hylendid Bwyd gyntaf yng Nghymru, nid oeddent yn orfodol, ond fe
ddaethant yn orfodol yn ddiweddarach. Ers cyflwyno'r Dystysgrif Hylendid Bwyd,
rydym yn credu bod safonau bwyd wedi gwella'n helaeth ac mae safleoedd sydd â
rhif uchel yn arddangos eu tystysgrifau â balchder. Rydym yn credu y bydd
safleoedd yn gwneud mwy o ymdrech i wella mynediad a gwasanaethau i'r gymuned
anabl pe bai Tystysgrif debyg ar gyfer mynediad yn cael ei chyflwyno.
Rydym yn credu y
bydd cyflwyno tystysgrif o'r fath yn gwella'n aruthrol y gwasanaethau i siopwyr
anabl a'r rheini sydd eisiau mynd allan am ddiod neu bryd o fwyd, neu
ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, sef cyfleusterau y mae'r rhan fwyaf yn eu
cymryd yn ganiataol.
Er mwyn ennill sgôr o bump, yn ogystal â bod yn hygyrch i gadeiriau olwyn, bydd
angen i safleoedd fod yn gwbl gynhwysol i'r rheini â nam ar eu golwg a'u clyw,
ac o bosibl bod gan staff ddealltwriaeth o'r rheini ag anabledd dysgu.
Mae bwyty â bwydlen braille neu staff sy'n gallu defnyddio iaith arwyddion yn
gallu gwneud gwahaniaeth enfawr a chynnig profiad llawer haws a llai o straen i
rywun wrth wneud y pethau bob dydd y mae'r rhan fwyaf yn eu cymryd yn
ganiataol.
Un syniad posibl, yn ogystal â chael sgôr dim i bump, fyddai cael symbolau
ychwanegol o dan hyn i ddangos a oes gan safle fynediad llawn i gadeiriau
olwyn, toiledau hygyrch, gwybodaeth mewn braille neu staff sy'n gallu defnyddio
iaith arwyddion, ac a yw'n ystyried awtistiaeth.
Rydym yn teimlo y byddai hyn yn arwain at welliannau mawr. Mae llawer o siopau
bwyd yn cystadlu â'i gilydd i gael sgôr uwch ac rydym yn gobeithio y bydd hyn
hefyd yn digwydd yn achos Tystysgrif Mynediad.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau
ar 17/04/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Gorllewin De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/04/2018