P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr
P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac Eog a Brithyll y Môr
P-05-810 Rhowch Gyfle i Glybiau Pysgota Cymru ac
Eog a Brithyll y Môr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Reuben Woodford, ar ôl
casglu 1,710 o lofnodion ar wefan e-Ddeiseb arall.
Geiriad y ddeiseb
Rhwystro’r
gormodedd o ddal a chadw Eogiaid drwy weithredu cyfyngiadau ar fagiau dal a
chadw ar bob afon yng Nghymru am y 4 blynedd nesaf ar sail data penodol i
dalgylch mewn ymgynghoriad agos â chlybiau pysgota.
Gweithredu
rhaglen stocio gynhwysfawr o bysgod brodorol ar bob afon.
Tynhau a
gweithredu deddfwriaeth bresennol er mwyn dileu’r bygythiad o lygredd ffermio a
llygredd diwydiant.
Rhwystro pob
math o bysgota rhwydi masnachol ar raddfa fawr a gweithrediadau lllongau
ffactri o amgylch arfordir Cymru am gyfnod o 10 mlynedd.
Blaenoriaethu
dyrannu adnoddau i gynorthwyo i reoli materion sy’n benodol i dalgylchoedd sy’n
gysylltiedig â chyfraddau ysglyfaethu naturiol gormodol a rhwystrau rhag ymfudiad
pysgod.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 17/09/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor ddiweddariad a gohebiaeth bellach, a chytunodd i gau'r
ddeiseb ar y sail nad oes llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd
yn dilyn yr ymchwiliad manwl i'r Is-ddeddfau arfaethedig a gynhaliwyd gan yr
Arolygiaeth Gynllunio, a phenderfyniad y Gweinidog i gadarnhau'r Is-ddeddfau.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
·
Arfon
·
Gogledd
Cymru
Rhagor
o wybodaeth
- Dysgwch fwy am broses ddeisebau'r
Cynulliad
- Llofnodwch e-ddeiseb
- Sut mae proses
Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 20/04/2018