Gwaith Ieuenctid – gwaith dilynol

Gwaith Ieuenctid – gwaith dilynol

Inquiry5

 

Gwnaeth y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ddarn o waith yn dilyn ei ymchwiliad i Waith Ieuenctid. Cyhoeddwyd yr adroddiad ‘Pa fath o wasanaethau ieuenctid y mae Cymru ei eisiau?’ (PDF 133MB) ym mis Rhagfyr 2016.

 

Roedd yr Pwyllgor yn awyddus i wybod a oedd gwaith a wnaed ers cyhoeddi’r adroddiad wedi gwneud gwahaniaeth i’r rhai sydd ynghlwm wrth ddarparu gwaith ieuenctid/gwasanaethau ieuenctid ar lawr gwlad.

 

Ionawr 2018

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ofyn am wybodaeth am y cynnydd a wnaed o ran rhoi argymhellion y Pwyllgor ar waith.

 

Chwefror 2018

Ymatebodd (PDF 287KB) y Gweinidog drwy roi gwybodaeth lawn am y cynnydd a wnaed o ran rhoi argymhellion y Pwyllgor ar waith ac yn nodi cynigion i fwrw ymlaen â’r flaenraglen waith hon.

 

Mawrth 2018

Ymgynghorodd y Pwyllgor â rhanddeiliaid allweddol i drafod y cynnydd a wnaed o ran rhoi’r argymhellion ar waith.

 

Mai 2018

Sesiynau tystiolaeth lafar.

 

Gorffennaf 2018

Ysgrifennodd y Pwyllgor at Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (PDF 163KB) i amlinellu canfyddiad ei waith dilynol.

 

Awst 2018

Ymatebodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes (PDF 200KB) i lythyr y Pwyllgor dyddiedig 12 Gorffennaf.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2018

Dogfennau