NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6697 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6697 Neil Hamilton (Canolbarth
a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ac yn croesawu ymgyrch y grŵp Women
Against State Pension Inequality (WASPI) i gael trefniadau pensiwn gwladol
trosiannol teg ar gyfer yr holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae newidiadau i
deddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU i ddarparu'r hyn a ganlyn i'r holl fenywod a anwyd yn y 1950au y mae
newidiadau i ddeddfwriaeth pensiwn y wladwriaeth yn effeithio arnynt:
a) pensiwn pontio sy'n cyflenwi incwm hyd at oedran
pensiwn y wladwriaeth, nad yw'n ddarostyngedig i brawf modd;
b) iawndal am absenoldeb pensiwn pontio i'r rhai sydd
eisoes wedi cyrraedd oedran pensiwn y wladwriaeth;
c) iawndal i bawb sydd heb ddechrau cael pensiwn pontio
erbyn dyddiad priodol, a fyddai'n ddigon i adennill llog ariannol a gollwyd; a
d) iawndal i fuddiolwyr yr ystadau'r rhai sydd wedi marw
a heb gael pensiwn pontio.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/03/2018
Prif Aelod: Neil Hamilton AS