NDM6692 - Dadl Plaid Cymru

NDM6692 - Dadl Plaid Cymru

NDM6692 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a thu hwnt.

 

2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau Cymru.

 

3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u denu i'r ardaloedd hynny.

 

4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym mhob rhan o Gymru;

 

b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;

 

c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfon a'r cymoedd.

 

d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;

 

e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl ifanc i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;

 

f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.

 

Adolygiad Diamond - Adolygiad Annibynnol o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru - Adroddiad Terfynol

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2018

Angen Penderfyniad: 14 Maw 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS