NDM6692 - Dadl Plaid Cymru
NDM6692 - Dadl Plaid Cymru
NDM6692
Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod llawer o gymunedau ledled
Cymru'n profi allfudo sylweddol o bobl ifanc i rannau eraill o Gymru, y DU a
thu hwnt.
2. Yn cydnabod cyfraniad pobl ifanc i wydnwch a chynaliadwyedd cymunedau
Cymru.
3. Yn croesawu llwyddiant Plaid Cymru o ran sicrhau cyllid ar gyfer cynllun
grant i ffermwyr ifanc i helpu i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd gwledig a'u
denu i'r ardaloedd hynny.
4. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth bresennol Cymru i greu cyfleoedd i
bobl ifanc i'w galluogi i ddewis byw a gweithio yn eu cymunedau.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) gwella'r cyfleoedd economaidd a roddir i bobl ifanc mewn cymunedau ym
mhob rhan o Gymru;
b) darparu cefnogaeth well i fusnesau newydd yng Nghymru a gwella'r
isadeiledd digidol a thrafnidiaeth y maent yn dibynnu arnynt;
c) cefnogi ymagwedd ranbarthol newydd i gadw pobl ifanc mewn ardaloedd dan
bwysau arbennig o ganlyniad i ymfudiad allanol, e.e. rhanbarth Arfon a'r
cymoedd.
d) ystyried a ellir lleoli sefydliadau cenedlaethol presennol neu newydd
mewn ardaloedd yng Nghymru sydd angen mwy o gyfleoedd gwaith;
e) darparu tai fforddiadwy a diwygio'r system gynllunio i alluogi pobl ifanc
i aros a/neu ddychwelyd i fyw yn eu cymunedau;
f) ymateb yn gadarnhaol i argymhelliad Adolygiad Diamond i gymell myfyrwyr
sy'n gadael i astudio i ddychwelyd i Gymru ar ôl graddio.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/04/2018
Angen Penderfyniad: 14 Maw 2018 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Rhun ap Iorwerth AS