Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018
Deddf Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018
Bil Brys Llywodraeth, a
gyflwynwyd gan Mark Drakeford AC,
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid. Bil
Brys yw Bil Llywodraeth y mae angen ei wneud yn Ddeddf yn gynt nag y mae proses
ddeddfu pedwar cyfnod arferol y Cynulliad yn ei ganiatáu. Ni ddarperir
diffiniad o Fil Brys yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 (“Deddf 2006”) nac yn Rheolau Sefydlog y Cynulliad. Fodd
bynnag, dywed Rheol Sefydlog 26.95:
“Os yw’n ymddangos i
aelod o’r llywodraeth fod angen Bil Brys, caiff gynnig bod Bil llywodraeth, a
gyflwynir yn y Cynulliad, yn cael ei drin fel Bil Brys llywodraeth.”
Fel yn achos pob Bil
Cynulliad, rhaid i Filiau Brys ymwneud ag un neu fwy o’r 21
Maes a gynhwysir yn Atodlen 7 i Ddeddf 2006 er mwyn iddynt fod o fewn
cwmpas pwerau deddfwriaethol y Cynulliad.
Gwybodaeth am y Bil
Bwriad y Bil yw diogelu cyfraith yr UE sy'n
ymwneud â phynciau sydd wedi'u datganoli i Gymru ar ôl i'r DU adael yr UE.
Ymhellach, bydd yn galluogi Gweinidogion Cymru i sicrhau bod deddfwriaeth sy'n
ymdrin â'r pynciau hyn yn gweithredu'n effeithiol ar ôl i'r DU adael yr UE ac
ar ôl i Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 gael ei diddymu gan Fil yr Undeb
Ewropeaidd (Ymadael).
Bydd y Bil yn caniatáu i Weinidogion Cymru
ddeddfu i sicrhau bod y drefn reoleiddio yn parhau i fod yn gyflin â threfn
reoleiddio'r UE, a hynny er mwyn sicrhau bod gan fusnesau Cymreig fynediad
parhaus at farchnad yr UE. Bydd hefyd yn creu sefyllfa ddiofyn yn y gyfraith
lle bydd angen cydsyniad Gweinidogion Cymru cyn y gall Gweinidogion y DU wneud
unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth ddatganoledig o fewn cwmpas cyfraith yr UE.
Mae rhagor o fanylion am y Bil i'w gweld yn y Memorandwm
Esboniadol sy'n cyd-fynd ag ef.
Daeth Deddf Cyfraith
sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru) 2018 yn gyfraith yng Nghymru
ar 6 Mehefin 2018.
Cofnod o daith y Bil drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru
Mae’r tabl a ganlyn yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod o daith y Bil
drwy Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyfnod |
Dogfennau |
||||||||
Cynnig
i drin y Bil fel Bil Brys y Llywodraeth Cynnig
i gytuno ar amserlen |
Cyflwynwyd
ar 27 Chwefror 2018, i’w drafod ar 6 Mawrth 2018 Amserlen
(PDF, 11KB) |
||||||||
Cyflwyno'r Bil: 7 Mawrth 2018 |
Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y'i cyflwynwyd
(PDF, 166KB) Memorandwm
Esboniadol (PDF, 906KB) Datganiad
y Llywydd: 27 Chwefror 2018 (PDF, 128KB) Datganiad
y Llywydd: Nodyn i Aelodau’r Cynulliad - 27 Chwefror 2018 (PDF, 187KB) |
||||||||
Y Pwyllgor yn trafod y Bil |
Bydd
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
yn trafod y Bil ar y dyddiadau canlynol:
Gosododd y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei
adroddiad ar y Bil ar 13 Mawrth 2018. Ymateb
Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 16 Mawrth 2018 [PDF 270 KB] |
||||||||
Cyfnod 1: Dadl yn y Cyfarfod Llawn ar
yr egwyddorion cyffredinol |
Cytunodd
y Cynulliad ar egwyddorion cyffredinol y Bil ar ôl dadl Cyfnod 1 yn y
Cyfarfod Llawn ar 13
Mawrth 2018. |
||||||||
Penderfyniad
Ariannol |
Cytunwyd
ar Benderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb
Ewropeaidd (Cymru) yn y Cyfarfod Llawn ar 13
Mawrth 2018. |
||||||||
Cyfnod 2: Y Pwyllgor yn trafod
gwelliannau |
Ystyriwyd
gwelliannau Cyfnod 2 yng nghyfarfod y Pwyllgor o’r Cynulliad Cyfan ar 20 Mawrth 2018. Hysbysiadau ynghylch
Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 15 Mawrth 2018 (PDF, 69KB) Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 15 Mawrth 2018 (PDF, 186KB) Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau – 16 Mawrth 2018 (PDF, 91KB) Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli – 20 Mawrth 2018 (PDF, 98KB) Grwpio
Gwelliannau – 20 Mawrth 2018 (PDF, 67KB) Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 2 (PDF, 177KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn
flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen) Newidiadau
argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 (PDF, 135KB) |
||||||||
Cyfnod 3: Trafod y gwelliannau yn y
Cyfarfod Llawn |
Cafodd y gwelliannau eu hystyried
a’u gwaredu yn ystod trafodion Cyfnod 3 yn y Cyfarfod Llawn ar 21 Mawrth 2018. Hysbysiadau ynghylch
Gwelliannau Hysbysiad
ynghylch Gwelliannau - 20 Mawrth 2018 (PDF, 82KB) Llywodraeth
Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 20 Mawrth 2018 (PDF, 166KB) Rhestr
o Welliannau Wedi’u Didoli – 21 Mawrth 2018 (PDF, 79KB) Grwpio
Gwelliannau – 21 Mawrth 2018 (PDF, 67KB) Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl
Cyfnod 3 (PDF, 181KB) (Caiff y gwelliannau i’r Bil ers y fersiwn
flaenorol eu nodi ar ochr dde’r dudalen) |
||||||||
Cyfnod 4: Pasio'r Bil yn y Cyfarfod
Llawn |
Cytunodd y Cynulliad ar y Bil ar 21
Mawrth 2018. Bil
Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i pasiwyd (PDF,
181KB) |
||||||||
Ar ôl Cyfnod 4 |
Ysgrifennodd y Twrnai
Cyffredinol at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill 2018 i
roi gwybod y byddai'n cyfeirio'r Bil i'r Goruchaf Lys o dan Adran 112 o
Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ysgrifennodd Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn
bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar
hyn o bryd. Ysgrifennodd Cwnsler
Cyffredinol Cymru at Brif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad ar 17 Ebrill
2018 i roi gwybod na fyddai’n cyfeirio’r Bil i’r Goruchaf Lys o dan Adran 112
o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Ysgrifennodd y Cwnsler Cyffredinol at y Llywydd ar 23 Mai i roi gwybod
iddi fod y Goruchel Lys wedi nodi’n ffurfiol fod proses gyfeirio'r Bil
Cyfraith sy'n Deillio o'r Undeb Ewropeaidd (Cymru) wedi’i therfynu â
chytundeb yr holl bleidiau perthnasol. Ysgrifennodd Ysgrifennydd
Gwladol Cymru at y Llywydd ar 16 Ebrill 2018 i roi gwybod nad oedd yn
bwriadu gwneud Gorchymyn o dan Adran 114 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. |
||||||||
Dyddiad Cydsyniad Brenhinol |
Rhoddwyd
Cydsyniad Brenhinol (PDF, 60KB) ar 6 Mehefin 2018. |
Gwybodaeth gyswllt
Clerc: Gareth Rogers
Ffôn: 0300 200 6357
Cyfeiriad post:
Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Bae Caerdydd
Caerdydd, CF99 1NA
Cyfeiriad e-bost: deddfwriaeth@cynulliad.cymru
Math o fusnes: Bil
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/03/2018
Dogfennau
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 15 Mawrth 2018 PDF 69 KB
- Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 15 Mawrth 2018 PDF 186 KB
- Ymateb Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid - 16 Mawrth 2018 PDF 270 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 16 Mawrth 2018 PDF 91 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 20 Mawrth 2018 PDF 98 KB
- Grwpio Gwelliannau – 20 Mawrth 2018 PDF 67 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 2 PDF 177 KB
- Hysbysiad ynghylch Gwelliannau - 20 Mawrth 2018 PDF 82 KB
- Llywodraeth Cymru: Tabl Diben ac Effaith - 20 Mawrth 2018 PDF 165 KB
- Rhestr o Welliannau Wedi’u Didoli – 21 Mawrth 2018 PDF 79 KB
- Grwpio Gwelliannau – 21 Mawrth 2018 PDF 67 KB
- Newidiadau argraffu i’r Bil fel y’i diwygiwyd yng Nghyfnod 2 PDF 135 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i diwygiwyd ar ôl Cyfnod 3 PDF 181 KB
- Bil Cyfraith sy’n Deillio o’r Undeb Ewropeaidd (Cymru), fel y’i pasiwyd PDF 180 KB
- Llythyr gan y Twrnai Cyffredinol – 17 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig] PDF 22 KB
- Llythyr gan y Cwnsel Cyffredinol – 17 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig] PDF 191 KB
- Llythyr gan y Ysgrifennydd Gwladol Cymru – 16 Ebrill 2018 [Saesneg yn unig] PDF 50 KB
- Llythyr gan y Ysgrifennydd Gwladol Cymru – 25 Mai 2018 [Saesneg yn unig] PDF 143 KB