Radio yng Nghymru

Radio yng Nghymru

Inquiry5

Cynhaliodd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ymchwiliad i Radio yng Nghymru.

 

Cefndir

 

Ystyriodd y Pwyllgor y materion canlynol yn ystod yr ymchwiliad: 

 

- i ba raddau y mae gwasanaethau radio BBC Cymru Wales, gwasanaethau radio masnachol a gwasanaethau radio cymunedol yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd yng Nghymru;

- effaith bosibl dadreoleiddio radio masnachol ar gynulleidfaoedd yng Nghymru;

- strwythurau perchnogaeth radio masnachol a’u heffaith ar gynnwys lleol;

- effaith technoleg newydd ar gynnwys lleol;

- cynaliadwyedd ariannol gwasanaethau radio cymunedol yng Nghymru, ac

- addasrwydd seilwaith darlledu radio yng Nghymru.

Adroddiad  

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad: Ar yr un donfedd: Ymchwiliad i Radio yng Nghymru (PDF, 903KB) ar 17 Rhagfyr 2018.

 

Ymateb i'r adroddiad

 

Gellir gweld ymateb Llywodraeth Cymru yma (PDF, 401KB).

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 19/01/2018

Dogfennau