P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr
P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tamsin Davies, wedi iddi
gasglu 8,700 o lofnodion ar bapur ac ar wefan deisebau arall.
Geiriad
y ddeiseb
Fel trigolion lleol,
rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y
Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn
ddianghenraid felly.
Rydym wedi gweld y
llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y
Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a
Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na
chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.
Rydym am achub y coed a'r
tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad
yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt
lleol.
Credwn nad yw Cyfoeth
Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod
wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a
chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er
mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.
Rydym yn galw ar
Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng
Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill
sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.
Coed
Statws
Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael
ailasesiad o’r risg o ran llifogydd cyn i unrhyw waith pellach gael ei wneud yn
y parc – a gan nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach
ar hyn o bryd – cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd cyn
diwedd y tymor y Senedd hon. Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau
i’r deisebwyr ar eu llwyddiant, a chau'r ddeiseb.
Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i
annog Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu hailasesiad o gam olaf Cynllun
Llifogydd y Rhath gyda'r deisebwyr cyn gynted â phosibl.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch
trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab
Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y
Pwyllgor Deisebau ar 27/02/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Canolog Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2018