P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

P-05-801 Rhaid achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath cyn iddi fynd yn rhy hwyr

 

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tamsin Davies, wedi iddi gasglu 8,700 o lofnodion ar bapur ac ar wefan deisebau arall.

 

Geiriad y ddeiseb

Fel trigolion lleol, rydym yn credu bod y gwaith arfaethedig i atal llifogydd yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath ym Mhen-y-lan, Caerdydd yn ddinistriol, ac yn ddianghenraid felly.

 

Rydym wedi gweld y llanast yng Ngerddi Waterloo ac yn gwrthwynebu Cyfnod 3 o Gynllun Llifogydd y Rhath gan Gyfoeth Naturiol Cymru, a fydd yn ehangu'r nant ym Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath gan arwain at gwymp dros 30 o goed mewn ardal lle na chafwyd unrhyw lifogydd yn y gorffennol.

 

Rydym am achub y coed a'r tir yng Ngerddi Melin y Rhath a Gerddi Nant y Rhath er mwyn gwarchod cymeriad yr ardal, lleihau'r difrod ecolegol a gwarchod cynefinoedd ein bywyd gwyllt lleol.

 

Credwn nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ystyried yn briodol yr holl opsiynau sydd ar gael, a'u bod wedi camarwain y cyhoedd â ffigyrau anghywir yn ystod eu cyfnod ymgynghori, a chredwn ei bod, mewn gwirionedd, yn ddianghenraid i chwalu gerddi'r parc er mwyn ehangu sianel y nant gan waredu hen goed yn y broses.

 

​Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i roi'r gorau i'r gwaith yng Ngerddi Melin y Rhath a Nant y Rhath ac ystyried yr opsiynau ymarferol eraill sydd ar gael i liniaru'r perygl canfyddedig o lifogydd yn yr ardal hon.

 

Coedwig

Coed

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 23/07/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ar y sail bod yr ymgyrchwyr wedi llwyddo i gael ailasesiad o’r risg o ran llifogydd cyn i unrhyw waith pellach gael ei wneud yn y parc – a gan nad yw Cyfoeth Naturiol Cymru yn bwriadu gwneud gwaith pellach ar hyn o bryd – cytunodd y Pwyllgor nad oes camau pellach y gall eu cymryd cyn diwedd y tymor y Senedd hon.  Estynnodd y Pwyllgor ei longyfarchiadau i’r deisebwyr ar eu llwyddiant, a chau'r ddeiseb.

 

Wrth wneud hynny, cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu i annog Cyfoeth Naturiol Cymru i rannu eu hailasesiad o gam olaf Cynllun Llifogydd y Rhath gyda'r deisebwyr cyn gynted â phosibl.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 27/02/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canolog Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/02/2018