Ardaloedd Menter

Ardaloedd Menter

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn parhau i graffu ar y maes polisi hwn, gan adeiladu ar y gwaith a wnaed gan y Pwyllgor Cyllid a Phwyllgor Menter a Busnes y Pedwerydd Cynulliad.

 

Ystyriodd ymchwiliad y Pwyllgor Cyllid yn 2013 pa gynnydd a wnaed ym mhob un o'r Parthau Menter, gan ganolbwyntio'n benodol ar y mewnbwn ariannol a'r allbynnau disgwyliedig o'r parthau.

 

Edrychodd y Pwyllgor ar y materion canlynol:

 

  • Asesu’r gwaith o weithredu’r Ardaloedd Menter hyd yma, gan gynnwys:
    • maint y cynnydd yn erbyn amcanion datganedig Llywodraeth Cymru ar gyfer y polisi Ardaloedd Menter (a sut caiff y cynnydd hwn ei fonitro a'i werthuso);
    • cyflawniadau hyd yma ar gyfer pob ardal, ochr yn ochr â'r adnoddau a ddefnyddiwyd yn y broses;
    • y defnydd a wnaed o'r ystod o gymhellion a gynigir ym mhob ardal;
    • y sail tystiolaeth ar gyfer polisi cyfredol Ardaloedd Menter;
    • perfformiad yr Ardaloedd Menter yn Lloegr.

 

  • Ystyried cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Ardaloedd Menter yn y dyfodol, gan gynnwys;
    • y targedau a’r amcanion penodol ar gyfer pob Ardal, a'r adnoddau sydd eu hangen i’w cyflawni;
    • rôl y Byrddau Ardaloedd Menter;
    • sut mae’n cyd-fynd â dull rhanbarthol Llywodraeth Cymru, y Cynllun Gweithredu Economaidd a mentrau eraill yn seiliedig ar lefydd, fel Tasglu’r Cymoedd, dinas-ranbarthau a bargeinion dinesig.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 14/12/2017

Dogfennau