P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

P-05-800 Apêl Brys am Gomisiynydd Cyn-filwyr Cymru i ofalu am iechyd a lles cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu, sy’n sâl neu sy’n ddigartref

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Hester, ar ôl casglu 50 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Yma yng Nghymru, roeddwn i’n falch mai ni oedd y cyntaf i gael Comisiynydd ar gyfer Plant a Phobl Ifanc a Chomisiynydd ar gyfer Pobl Hŷn. Yn anffodus, mae’r Alban wedi achub y blaen arnom i gael Comisiynydd ar gyfer Cyn-filwyr.

 

Rydym ni gyn-filwyr angen rhywun i fod yn llais a chynrychiolaeth ar ein rhan i lywodraeth Cynulliad Cymru. Nid beth mae’r “uwch-swyddogion” eisiau i chi ei wybod.

 

Rydym angen rhywun a all gwrdd â ni, a fydd yn gwybod ein safbwynt a’r hyn yr ydym ei angen. I gefnogi’r sawl anffodus sy’n cael eu hunain yn y carchar yn hytrach nag eu bod derbyn triniaeth iechyd meddwl am Anhwylder Straen Wedi Trawma (PTSD).

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 03/12/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb ar y sail ei bod bellach wedi bod yn beth amser ers i’r Pwyllgor dderbyn gohebiaeth gan y deisebydd ac felly mae’n anodd gweld sut y gellid symud y ddeiseb ymlaen ymhellach.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 06/02/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  •  Torfaen
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/12/2017