NDM6612 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6612 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
NDM6612
Gareth
Bennett (Canol De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn credu y gellir defnyddio tai modiwlar fel elfen arloesol
o'r broses o fynd i'r afael ag anghenion tai Cymru.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cynnal adolygiad o'r broses gynllunio i ddileu
biwrocratiaeth a rhwystrau i unigolion sy'n dymuno adeiladu cartrefi modiwlaidd
eu hunain;
b) sefydlu corfforaeth datblygu tai i gaffael safleoedd
tir llwyd ar sail eu gwerth defnydd presennol a thrwy ddefnyddio prynu gorfodol
os oes angen, pa nad yw safleoedd o'r fath wedi cael eu ddatblygu ers tair
blynedd neu fwy; a
c) ddatblygu cofrestr o safleoedd o'r fath a rhoi
blaenoriaeth i ddatblygu cynlluniau tai modiwlaidd ar raddfa fach, i gymell
unigolion sy'n dymuno adeiladu eu cartrefi eu hunain.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2017
Angen Penderfyniad: 13 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Gareth Bennett AS