Defnydd Comisiwn y Cynulliad o’r tanwariant sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau

Defnydd Comisiwn y Cynulliad o’r tanwariant sy’n deillio o Benderfyniad y Bwrdd Taliadau

Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad er mwyn canfod sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn rhagweld ei gyllideb ar gyfer penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau, a chanfod a yw'r ffordd y mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu gwybodaeth am y tanwariant yn glir ac yn dryloyw. Ystyriodd y Pwyllgor Cyllid sut y mae seneddau eraill yn y DU a thu hwnt yn cyllidebu ar gyfer gwariant yn ymwneud â thâl a lwfansau Aelodau, a hynny er mwyn penderfynu a yw'n fodlon bod y Comisiwn yn paratoi ei gyllideb yn y modd mwyaf tryloyw ac effeithiol posibl.

 

Cylch gorchwyl:

  • sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn rhagweld ei gyllideb ar gyfer penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau;
  • a yw'r ffordd y mae Comisiwn y Cynulliad yn darparu gwybodaeth am y tanwariant yn glir ac yn dryloyw;
  • sut y mae Comisiwn y Cynulliad yn penderfynu defnyddio'r tanwariant ar ôl cyllido penderfyniadau'r Bwrdd Taliadau; a
  • sut y mae seneddau eraill yn y DU a thu hwnt yn cyllidebu ar gyfer gwariant yn ymwneud â chyflogau a lwfansau Aelodau.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF 789KB) ar yr ymchwiliad yma yn Mai 2018.

 

Daeth ymateb Comisiwn y Cynulliad (PDF, 286KB) i adroddiad y Pwyllgor i law ar 8 Mehefin 2018.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/12/2017

Dogfennau