NDM6608 Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-2017
NDM6608 Dadl: Adolygiad Blynyddol y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol ar gyfer 2016-2017
NDM6608 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi Adolygiad Blynyddol Pwyllgor Comisiwn
Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017
Adolygiad
Blynyddol Pwyllgor Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Cymru 2016-2017
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y ffaith bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a
Hawliau Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn cael ei lesteirio gan y
diffyg cynnydd o ran gweithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig
a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Deddf
Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod nod y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol o gael gwared ar drais yn y gymuned yn golygu bod angen gweithredu'r
addweidion ehangach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn ystod hynt Deddf Trais
yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi â phryder y cynnydd mewn troseddau
casineb yr adroddwyd arnynt yng Nghymru.
Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod ymdrechion y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau
Dynol i sicrhau bod cydraddoldeb a hawliau dynol yn cael eu hymgorffori yn y
gwaith a gaiff ei wneud o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol
(Cymru) 2017 yn golygu y bydd angen "deialog gwirioneddol rhwng cymunedau,
unigolion a’u gwasanaethau cyhoeddus " yn unol â'r hyn y galwodd
Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol amdano yn ei chynllun strategol
drafft.
Deddf Llesiant
Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
Comisiynydd
Cenedlaethau'r Dyfodol – Cynllun Strategol Drafft 2017-23
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 12 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS