NDM6602 Dadl: Ansawdd Aer
NDM6602 Dadl: Ansawdd Aer
NDM6602 Julie
James (Gorllewin Abertawe)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod yr angen am gymryd camau brys, gan gynnwys
gweithio ar draws pob adran o Lywodraeth Cymru, i fynd i’r afael ag ansawdd aer
gwael sy’n effeithio ar iechyd pobl ac amgylchedd naturiol Cymru.
2. Yn cefnogi datblygu cynllun aer glân i Gymru i sicrhau
mwy o welliannau na’r lleiafswm cyfreithiol ar gyfer ein holl ddinasyddion, gan
gynnwys:
a) llunio fframwaith parth aer glân i sicrhau bod y
parthau aer glân yn cael eu cynnal yn gyson ac effeithlon gan yr awdurdodau,
lleol, lle’r bo’r angen;
b) gwella’r ffordd y mae’r awdurdodau lleol yn adrodd ar
faterion sy’n ymwneud ag ansawdd aer yn eu rhanbarthau, a’r ffordd y maent yn
mynd i’r afael â nhw;
c) sefydlu canolfan asesu a monitro ansawdd aer Cymru, ar
gyfer cynghori llywodraethau lleol a chenedlaethol ar faint o ansawdd aer gwael
sydd ac ar effeithiolrwydd camau gweithredu, nawr ac yn y dyfodol;
d) sefydlu ymgyrch barhaus sy’n ymwneud ag ansawdd aer ac
ymyriadau eraill i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o ansawdd aer gwael ac i newid
ymddygiad.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i wireddu ei hymrwymiad i
gael gwared ar geir a faniau diesel a phetrol erbyn 2040 drwy osod cerrig
milltir penodol i’w cyrraedd cyn y dyddiad hwnnw, gan gyflymu’r newid i system
drafnidiaeth dim allyriadau yn y DU a chan sicrhau canlyniadau iechyd y cyhoedd
yn gynharach.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drin llygredd aer fel mater
iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth
genedlaethol ar lygredd aer.
Gwelliant 3. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i
fyrddau iechyd lleol ar hysbysu trigolion ynghylch lefelau llygredd aer.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi canllawiau i
awdurdodau lleol ar sut y dylid monitro ansawdd aer y tu allan i ysgolion ac ar
lwybrau teithio llesol.
Gwelliant 5. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu'r mesurau arloesol a hyrwyddir gan Lywodraeth
y DU, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol erbyn 2040 – ac yn galw am
fwy o gysylltiadau partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y
polisi hwn, er mwyn sicrhau'r newid i drafnidiaeth ffordd dim allyriadau yn y
DU a chyflwyno'r canlyniadau cysylltiedig i iechyd y cyhoedd.
Gwelliant 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod yr angen i ddatgarboneiddio'r sector
trafnidiaeth ac yn croesawu'r ddarpariaeth o £2 miliwn tuag at drydanu cerbydau
trydan o ganlyniad i'r cytundeb rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ar y
gyllideb.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 14/06/2021
Angen Penderfyniad: 5 Rhag 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Julie James AS