P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru
P-05-796 Galw ar Lywodraeth Cymru i wahardd yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Evelyn Joyce Jones ar
ôl 1,517 o lofnodion ar-lein a 1,737 o lofnodion papur. Casglodd deiseb gysylltiedig
3,144 o lofnodion ar wefan amgen.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar
Gynulliad Cymru i ofyn i Lywodraeth Cymru wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt
mewn syrcasau yng Nghymru. Mae Lles Anifeiliaid (ac eithrio hela ac arbrofi ar
anifeiliaid) yn fater datganoledig yng Nghymru.
Ym mis Rhagfyr 2015,
dywedodd Rebecca Evans AC (y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd ar y pryd),
"Mae Llywodraeth Cymru o'r farn nad oes unrhyw le i anifeiliaid gwyllt
mewn syrcasau".
O dan ei chyfarwyddyd
hi, comisiynodd Llywodraeth Cymru
adroddiad annibynnol a chafwyd tystiolaeth gan dros 600 o arbenigwyr yn y maes.
Cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf 2016, ac roedd y casgliadau’n
glir.
Yn ôl yr adroddiad, mae’r
dystiolaeth wyddonol yn dangos nad yw syrcasau teithiol sy’n defnyddio
anifeiliaid gwyllt yn bodloni’r gofynion lles a nodir o dan Ddeddf Lles
Anifeiliaid 2006.
Mae'r adroddiad hefyd yn
datgan "Nid yw bywyd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sŵau teithiol
yn “fywyd da” nac yn “fywyd sy’n werth ei fyw”.
Ym mis Rhagfyr 2016,
dywedodd Lesley Griffiths AC (Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a
Materion Gwledig) fod Llywodraeth Cymru yn
gweithio tuag at sefydlu system drwyddedu, debyg i honno sy’n cael ei
rhedeg gan DEFRA yn Lloegr ar hyn o bryd. Dylid nodi bod Llywodraeth y DU wedi
rhoi’r system hon ar waith yn 2011 fel mesur dros dro hyd nes y gellid
gwaharddiad yr arfer.
Mae’r dogfennau trwyddedu
sydd ar gael i’r cyhoedd eu gweld yn dangos yn glir fod y system drwyddedu hon
yn methu yn ei hymdrech i ddiogelu anifeiliaid. Mae'r ddwy syrcas anifeiliaid
sydd wedi’u trwyddedu o dan DEFRA ar hyn o bryd wedi torri amodau eu trwyddedau
droeon, ac mae eu trwyddedau wedi’u hatal ar ryw adeg neu'i gilydd.
Mewn arolwg a gynhaliwyd
gan RSPCA Cymru, roedd 74% o bobl Cymru yn awyddus i’r arfer hwn gael ei
wahardd. Cyflwynodd y corff hwn hefyd ddeiseb i Bwyllgor Deisebau Cynulliad
Cymru yn 2015.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/01/2018.
Etholaeth a
Rhanbarth y Cynulliad
- Arfon
- Gogledd Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017