P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

P-05-795 Achosi Niwsans neu Aflonyddwch ar safleoedd y GIG

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire Thomas, ar ôl casglu 74 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​Creodd A119 o'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 bwerau i ddelio â phobl sy'n achosi niwsans neu aflonyddwch ar safleoedd y GIG. Ni chafodd hyn ei ddeddfu yng Nghymru, ac nid oes unrhyw ddarpariaethau i ddelio â phobl sy'n creu problemau ar gyfer y GIG yn y modd hwn.

 

Mae yna nifer o unigolion sy'n achosi problemau tra ar safleoedd y GIG, ac mae'r heddlu yn derbyn llawer o alwadau i ddelio ag ymddygiad o'r fath, ond nid oes unrhyw ffordd o ymdrin â'r mater hwn yn effeithiol gan nad oes trosedd benodol y gall yr heddlu ei defnyddio i atal pobl, heb fod ganddynt esgus rhesymol, sydd naill ai'n achosi aflonyddwch neu niwsans, yn gwrthod gadael yr adeilad pan ofynnir iddynt, neu nad ydynt ar y safle at ddiben cael cyngor, triniaeth neu ofal meddygol.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Mae'r gost i wasanaethau iechyd a'r heddlu wrth ddelio â phobl sy'n achosi niwsans ar safleoedd y GIG yn sylweddol. Mae nifer o'r unigolion hyn yn ymddangos dro ar ôl tro, ac nid oes unrhyw bwerau i ddelio â hyn. Mae eu presenoldeb hefyd yn achosi gofid i eraill sy'n mynd at y GIG am resymau dilys. Mae A119 o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008 wedi cael ei defnyddio'n llwyddiannus gan yr heddlu ac iechyd yn Lloegr i fynd i'r afael â'r mater ers i'r adran benodol ddod i rym yn 2009, ac eto nid oes unrhyw bŵer i wneud hynny yng Nghymru, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y byddai pwerau tebyg i fynd i'r afael â'r mater hwn yn cael eu datblygu yng Nghymru, nid yw hyn wedi digwydd.

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/02/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, o  ystyried faint o amser a oedd wedi mynd heibio ers cyflwyno’r ddeiseb heb ddiweddariad na chynnydd sylweddol, ac o ystyried na chafwyd ymateb gan y deisebydd ers cyflwyno’r ddeiseb, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 23/01/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 12/12/2017