Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Senedd

Pwyllgor Archwilio Comisiwn y Senedd

Mae Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Comisiwn y Senedd yn gweithredu mewn rôl ymgynghorol ac nid oes ganddo bwerau gweithredol. Cytunwyd ar ei Gylch Gorchwyl (o dan deitl blaenorol y Pwyllgor, sef y Pwyllgor Llywodraethu Corfforaethol) gan y Comisiwn ar 20 Mehefin 2007. Mae’r cylch gorchwyl yn cyd-fynd â chanllawiau’r Trysorlys a chaiff ei adolygu gan y Pwyllgor o bryd i’w gilydd.

 

Mae cylch gorchwyl y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yn datgan:

Rôl y Pwyllgor yw cynnig cyngor a chefnogaeth i Brif Weithredwr a Chlerc y Senedd, ac i’w herio mewn perthynas â’i chyfrifoldebau fel Swyddog Cyfrifyddu, yn ogystal â rhoi sicrwydd i’r Comisiwn. Mae’r cyfrifoldebau hyn yn cynnwys dyletswydd i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario mewn modd cyson a phriodol gan sicrhau gwerth am arian wrth ddefnyddio adnoddau.

 

Mae’n ddyletswydd ar y Swyddog Cyfrifyddu hefyd i sicrhau bod trefniadau llywodraethu corfforaethol cadarn ar waith a bod rheolaethau mewnol effeithiol ar gael i sicrhau bod risgiau’n cael eu nodi a’u rheoli’n briodol.

 

Math o fusnes:

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 17/01/2017