NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6594 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6594 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu'r rôl hanfodol y mae staff rheng flaen Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chwarae o ran cyflenwi gwasanaethau a
chefnogi cleifion ar draws gogledd Cymru.
2. Yn nodi penderfyniad Llywodraeth Cymru i roi Bwrdd
Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o dan fesurau arbennig ym mis Mehefin 2015.
3. Yn credu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â mynd i'r
afael ag amseroedd aros cynyddol yng ngogledd Cymru a sefyllfa ariannol y bwrdd
iechyd wrth iddi waethygu.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) egluro pa gamau y mae'n eu cymryd i sicrhau nad yw'r
ansicrwydd ariannol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn tanseilio'r
gwaith o gyflenwi gwasanaethau;
b) cyhoeddi cynllun gweithredu clir i ddychwelyd y bwrdd
iechyd at ei statws arferol; ac
c) egluro'r mesurau y bydd y bwrdd iechyd yn eu cymryd i
wella canlyniadau i gleifion.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2017
Angen Penderfyniad: 29 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd