NDM6521 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6521 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv)
NDM6521
Mike
Hedges (Dwyrain Abertawe)
David
Melding (Canol De Cymru)
Simon
Thomas (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dawn
Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod y gall inswleiddio waliau ceudod, pan y
caiff ei wneud yn gywir mewn eiddo addas, fod yn ffordd gost effeithiol o
leihau biliau tanwydd, gan gyfrannu at leihau allyriadau carbon a thlodi
tanwydd.
2. Yn credu, fodd bynnag, fod lleiafrif sylweddol o
osodiadau yn parhau mewn eiddo anaddas ac eiddo nad yw'n cydymffurfio â
safonau gwaith da, a bod ceisio cael iawn am hynny yn aml yn anodd a'r iawndal
yn aml yn annigonol neu'n amhosibl ei gael.
3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth
y DU, Cavity Insulation Guarantee Agency ac eraill i ddarparu iawndal priodol
ac iawndal ar gyfer gwaith a gaiff ei osod yn anghywir, ac i gryfhau'r prosesau
ar gyfer diogelu defnyddwyr yn y dyfodol.
Cefnogwyd
gan:
Mick
Antoniw (Pontypridd)
Russell
George (Sir Drefaldwyn)
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 23/11/2017
Angen Penderfyniad: 29 Tach 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd