Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 - Craffu ar ôl Deddfu

Daeth y Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 (y Ddeddf) i rym ym mis Medi 2014. Mae'r term 'teithio llesol' yn golygu cerdded a beicio ac mae'r Ddeddf yn canolbwyntio ar gerdded a beicio ar gyfer cludiant yn hytrach na hamdden. Mae Adran 2(7) y Ddeddf yn diffinio "taith teithio llesol” fel "taith a wneir i weithle neu sefydliad addysgol neu oddi yno neu er mwyn defnyddio gwasanaethau neu gyfleusterau iechyd neu hamdden neu wasanaethau neu gyfleusterau eraill".

Bydd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yn cynnal gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol i adeiladu ar y gwaith craffu ôl-ddeddfwriaethol cychwynnol a wnaed gan y Pwyllgor Menter a Busnes blaenorol (Teithio Llesol: dechrau’r daith (Chwefror 2016).

Gweithgaredd Ymgysylltu

Trwy gydol mis Chwefror, comisiynodd y pwyllgor grwpiau ffocws i drafod rhwystrau canfyddedig i deithio'n weithredol, arferion da cyfredol a meysydd i'w gwella - mae nodyn o'r ymweliadau hyn ar gael yma

Ym mis Rhagfyr, lansiodd y Pwyllgor arolwg i'w helpu i ddeall sut a pham y mae pobl yn beicio neu'n cerdded, a pham nad ydynt yn gwneud hynny. Derbyniwyd dros 2,500 o ymatebion - mae adroddiad ar yr arolygon hyn ar gael yma

Mae fideo fer ar gael hefyd sy'n crynhoi canlyniadau'r arolwg a rhai o'r themâu allweddol sy'n codi.

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/11/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau