P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

P-05-793 Band eang cyflym i bentref Llangenni

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Llangenny Village residents, ar ôl casglu 72 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, preswylwyr pentref Llangenni ym Mhowys, yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn rheoli eu contract am fand eang cyflym yng Nghymru gyda BT mewn modd fel y bydd pentref Llangenni wedi cysylltu â chyflymder uchel erbyn 31 Rhagfyr 2017.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Ar hyn o bryd, mae preswylwyr yn ein pentref yn profi colli gwasanaeth yn rheolaidd neu gyflymder mor isel â 0.01Mb/s. Mae llawer o breswylwyr yn rhedeg busnesau neu sefydliadau gwirfoddol o adref ac mae angen band eang cyflym arnynt. Mae'r gwasanaeth presennol yn gwbl annerbyniol.

 

Bysellfwrdd gyfrifiadur

Bysellfwrdd gyfrifiadur

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/04/2019 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth bellach a chytunodd, er ei fod yn cydymdeimlo'n fawr â thrigolion Llangenni yn y mater hwn, y byddai'n cau'r ddeiseb gan nad yw'n ymddangos yn bosibl gwneud cynnydd pellach mewn perthynas â gwasanaethau band eang yn Llangenni ar hyn o bryd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/11/2017