P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

P-05-792 Deiseb i ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ym Mlaenporth.

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rosemarie Chaffers-Jones, ar ôl casglu 74 o lofnodion ar bapur ac 1 llofnod ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn cyflwyno'r ddeiseb hon i Gynulliad Cymru er mwyn ymestyn y terfyn cyflymder 40mya ar yr A487 i ffin y plwyf ble mae'r terfyn 50 mya yn dechrau.

Ar hyn o bryd mae'r terfyn 40mya yn dod i ben cyn ble'r oedd yr ysgol leol gynt, ar ffordd Lon-yr-Ysgol. Mae'r ysgol bellach wedi cau, ond mae'r plant yn dal yma, ac maent bellach yn cael eu codi yn arosfan bws Lon-yr-Ysgol ble y byddant yn aros, ar brydiau gyda rhieni gyda phlant bach, am y bws ysgol. Yn y prynhawn, pan fyddant yn cael eu gollwng ar ddiwedd y dydd, mae'n sefyllfa wahanol, gan bod yn rhaid i'r plant groesi'r A487 o ochr arall y ffordd.

Y cyfyngiad cyflymder yn y man lle y mae'r plant yn gorfod croesi'r ffordd yw 60mya ac mae'r traffig, sydd wedi'i ryddhau o gyfyngiadau'r parth 40mya, yn cyflymu ac yn aml yn goddiweddyd ar y rhan syth hon o'r ffordd. Draw yr ochr bellaf i'r ffordd nid oes arwydd 'Araf – Plant yn croesi', dim arwydd arosfan bws na lloches arosfan bws i roi rhybudd i fodurwyr y gallai cerddwyr fod yn croesi.

Dyma hefyd y man ble y mae'r ramp mynediad i'r anabl wedi'i leoli ar ddwy ochr y ffordd, a defnyddir hwn gan rieni â chadeiriau gwthio a'r henoed gyda fframiau cerdded yn ogystal â chan bobl gydag anabledd ac ati.

Bu un farwolaeth eisoes ar y rhan hon o'r ffordd a'r wythnos diwethaf cafodd cerbyd mawr arall ddamwain a mynd oddi ar y ffordd a thrwy'r gwrych, gan falurio rhan fawr o ffens.

Credaf mai mater o amser yn unig yw nes y bydd plentyn yn colli ei fywyd.

Ers i'r terfyn cyflymder gael ei osod ar y ffordd, adeiladwyd fferm solar gyda mynediad i'r rhan hon o'r ffordd a thraffig ychwanegol. Hefyd mae hen adeiladau'r ysgol wedi dod yn barc busnes, gyda siop sglodion, busnes ceiropractydd, warws carpedi, man golchi ceir, ac mae rhagor i ddod.

Mae hyn oll wedi arwain at gynnydd o ran traffig trwm sy'n troi i mewn i Lon-yr-Ysgol ac yn ceisio ei gadael.

Mae'r ddeiseb hon yn gofyn i Gynulliad Cymru roi blaenoriaeth i ddiogelwch ein plant, ac ymestyn y parth 40mya i gynnwys y rhan gyfan o'r A487 o fewn ffin y plwyf.

 

Car yn gyrru lawr heol wledig

Car yn gyrru lawr heol wledig

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 25/09/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2018.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/11/2017