Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth

Pwerau ym Mil yr UE (Ymadael) i wneud is-ddeddfwriaeth

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol* ymchwiliad byr i edrych yn fanwl ar y pwerau a ddirprwywyd i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru ym Mil yr UE (Ymadael) Llywodraeth y DU i wneud is-ddeddfwriaeth.

 

Cylch gorchwyl

 

(i)           i ystyried priodoldeb:  

-        cwmpas a natur y pwerau dirprwyedig a ddarperir yn y Bil i Weinidogion y DU a Gweinidogion Cymru, gan gynnwys defnyddio pwerau Harri VIII;

-        y gweithdrefnau i'w defnyddio i graffu ar ddeddfwriaeth dirprwyedig o dan y Bil.

 

(ii)          i ystyried adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill ar draws y DU ar y pwerau dirprwyedig o fewn y Bil;

 

(iii)        i ystyried unrhyw fater perthnasol arall sy'n ymwneud â gwneud is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i'r Bil.

 

Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a’r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ymchwiliad ar y cyd i ‘Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a’i oblygiadau i Gymru’.

Daeth yr ymatebion i law ar gyfer yr ymgynghoriad a oedd yn cyd-fynd ag ef a defnyddiwyd y sylwadau, a oedd eisoes wedi’u casglu gan y Pwyllgor, i lywio’r gwaith. Fodd bynnag, byddem hefyd yn croesawu cyflwyniadau ar y materion penodol sy'n destun yr ymchwiliad hwn gan bobl nad oeddent wedi ymateb i'r ymgynghoriad gwreiddiol neu gan y rhai a ymatebodd, ond a hoffai wneud rhagor o bwyntiau yng ngoleuni datblygiadau ar y Bil neu mewn ymateb i adroddiadau pwyllgorau seneddol eraill ar y pwnc hwn.

 

Rhestrir yr adroddiadau seneddol sy'n berthnasol i'n hymchwiliad isod.

 

Delegated Powers and Regulatory Reform Committee - European Union (Withdrawal) Bill (Saesneg yn unig)

House of Lords Select Committee on the Constitution - European Union (Withdrawal) Bill: interim report (Saesneg yn unig)

House of European Union Committee - Brexit: devolution (Saesneg yn unig)

House of Lords Select Committee on the Constitution - The ‘Great Repeal Bill’ and delegated powers (Saesneg yn unig)

 

Mae'r adroddiad a ganlyn hefyd yn berthnasol i'n gwaith:

 

Hansard Society - Taking Back Control for Brexit and Beyond (Saesneg yn unig)

 

Adroddiad y Pwyllgor

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor ei adroddiad (PDF, 2MB) ym mis Chwefror 2018. Trafodwyd yr adroddiad ac ymateb (PDF, 200KB y Llywodraeth yn y Cyfarfod Llawn ar 27 Mawrth 2018.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/10/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau