P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru
P-05-791 Diddymu contractau parcio preifat yn ysbytai Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nick Harding, ar ôl casglu
102 o lofnodion ar-lein.
Geiriad
y ddeiseb:
Mae bron deng
mlynedd ers i Lywodraeth Cymru ddiddymu taliadau parcio mewn ysbytai ac eto,
mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i roi contract i Indigo
Parking UK sy'n mynd ati'n ddidrugaredd i ddirwyo staff gweithgar y GIG a
chleifion gwael, sef y rheini sydd lleiaf tebygol o fedru eu fforddio!
Mae'n hen bryd diddymu
contractau parcio yn ysbytai Cymru ar unwaith ac atal y cwmnïau hyn rhag codi
tâl ar y bobl wannaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Gwybodaeth ychwanegol:
Nod y ddeiseb hon yw dangos cefnogaeth i'r rhai sydd wedi cael dirwy gan
gwmnïau gorfodi fel Indigo Parking UK, a hynny'n aml ar yr adeg pan oeddent ar
eu gwannaf.
Dylai bod modd
defnyddio'r gyfraith i gael gwared ar y cwmnïau hyn a dylid dangos nad oes croeso
iddynt yng Nghymru.
Ceir wedi’i barcio
Statws
Yn ei gyfarfod ar 09/10/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i
chwblhau. Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/01/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Canol Caerdydd
- Canol
De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 01/12/2017