Cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Gaffael Cyhoeddus yng Nghymru (PDF 2MB) ym mis Hydref 2017 ac adroddiad arall ar y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (PDF 946KB) ym mis Tachwedd 2017.
Yn 2015-16, gwariodd cyrff cyhoeddus yng Nghymru oddeutu £6 biliwn trwy gaffael ar ystod o nwyddau, gwasanaethau a gwaith ond mae angen iddynt wella eu perfformiad er mwyn sicrhau gwerth am arian. Mewn tirlun sy'n newid, mae cyrff cyhoeddus yn wynebu heriau wrth gydbwyso blaenoriaethau caffael sydd o bosibl yn cystadlu, gan ymateb i bolisi, deddfwriaeth a thechnoleg newydd, ac wrth recriwtio a chadw personél allweddol.
Mae datganiad polisi Llywodraeth Cymru 2015 yn nodi'r egwyddorion pwysicaf ar gyfer caffael cyhoeddus, yng nghyd-destun deddfwriaeth gaffael berthnasol yr UE a'r DU. Fodd bynnag, mae’r ein hadroddiad wedi canfod y gellid cryfhau trefniadau llywodraethu cenedlaethol, gan fod effeithiolrwydd y bwrdd caffael cenedlaethol yn gyfyngedig ar hyn o bryd.
O'r £6 biliwn a wariwyd trwy gaffael yn 2015-16, roedd £880 miliwn trwy gaffael cydweithredol dan reolaeth y tri phrif gonsortia a sefydliadau prynu cyhoeddus yng Nghymru. Er bod y sefydliadau hyn yn adrodd am arbedion ariannol a manteision eraill, mae gan gyrff cyhoeddus farn gymysg ar eu heffeithiolrwydd.
Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymchwiliad i’r mater hwn yn ystod y gwanwyn yn 2018. Yn ystod y sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru, daeth yn amlwg y caiff nifer o bryderon y Pwyllgor sylw yn yr adolygiad a gaiff ei gynnal gan Lywodraeth Cymru. Ysgrifennod y Pwyllgor at Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2018 i roi gwybod y byddai’n gynamserol iddo ddod i gasgliadau yn awr, ac mae wedi cytuno i ystyried y mater hwn eto, ar ôl i’r adolygiad gael ei gwblhau. Cwblhawyd yr adolygiad ym nhymor yr hydref 2018 a bydd y Pwyllgor yn ystyried y canlyniadau gyda Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2019.
Dyddiad, Agenda a Cofnodion |
Trawsgrifiad |
Fideo |
|
1. Liz Lucas – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
Steve Robinson - Cyngor Caerdydd
|
|||
2. Mike Halstead – Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Arwel Staples –Cyngor Sir Ddinbych |
|||
3. Sophie Howe – Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru
Dr Eurgain Powell - Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru |
|||
4. Llywodraeth Cymru
Andrew Slade Sue Moffatt Jonathan Hopkins |
|||
5. Llywodraeth Cymru
Andrew Slade Marion Stapleton |
Dydd Llun 18 Chwefror 2019 |
Darllen trawsgrifiad o Sesiwn Dystiolaeth 5 |
Gwylio Sesiwn Dystiolaeth 5 ar Senedd TV |
Math: Er gwybodaeth
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/10/2017