NDM6531- Yr Economi Gylchol
NDM6531- Yr Economi Gylchol
NDM6531 Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r cynnydd sydd wedi'i gyflawni hyd yma yng
Nghymru o safbwynt arwain o fewn y DU a bod y drydedd wlad orau yn y byd o ran
ailgylchu trefol.
2. Yn cefnogi'r bwriad i ddatblygu economi fwy cylchol i
Gymru, gan gynnwys ystyried yr achos o blaid:
a) Targed o ailgylchu 80% o wastraff trefol; ac
b) Targed o leihau gwastraff bwyd 50%.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn llongyfarch Cyngor Ceredigion ar barhau i fod y cyngor
sy'n perfformio orau mewn perthynas ag ailgylchu.
Gwelliant 2. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ym mhwynt 2,dileu popeth ar ôl 'yr achos o blaid' a rhoi
yn ei le:
'targed o sicrhau dyfodol diwastraff erbyn 2030.'
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r effaith sylweddol y gallai'r cynllun dychwelyd
blaendal ei chael o ran helpu i gyrraedd targedau ailgylchu Cymru.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a
Phlaid Cymru i gynyddu cyfraddau ailgylchu ymhellach drwy dreialu cynllun
dychwelyd blaendal.
Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r cynnig i ostwng lefelau gwastraff
gweddilliol drwy gyflwyno treth ar blastigau na ellir eu hailddefnyddio a na
ellir eu hailgylchu.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021
Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS