NDM6530 - Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
NDM6530 - Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb
NDM6530 Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd a wnaed mewn perthynas â Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb Llywodraeth Cymru o ganlyniad i waith yn
cynnwys amrywiaeth eang o bartneriaid ar draws Cymru.
'Fframwaith
Mynd i'r Afael â Throseddau Casineb'
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi, er y bu cynnydd cyson yng nghyfanswm nifer y
troseddau casineb a gaiff eu cofnodi, fod yr elusen Cymorth i Ddioddefwyr wedi
dweud bod angen gwneud mwy i annog dioddefwyr i siarad am eu profiad.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu cod ymarfer newydd Llywodraeth y DU ar
gyfryngau cymdeithasol a fydd yn sicrhau dull gweithredu cydgysylltiedig mewn
perthynas â dileu neu fynd i'r afael â chynnwys ar-lein sy'n bwlio, sy'n
fygythiol neu'n fychanol.
Llywodraeth
y DU - 'Internet Safety Strategy Green Paper' (Saesneg yn unig)
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am gydnabod bod troseddau a gyflawnir yn erbyn
pobl hŷn oherwydd eu hoedran yn droseddau casineb.
Gwelliant 4. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ychwanegu troseddau casineb
at y strategaeth awtistiaeth ddiwygiedig.
'Llywodraeth
Cymru - Cynllun Gweithredu Strategol ar Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig'
Gwelliant 5. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â
radicaleiddio dynion gwyn i mewn i grwpiau asgell dde, gan nodi gweithgarwch
terfysgol diweddar a gyflawnwyd gan yr asgell dde.
Gwelliant 6. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu mwy o swyddogion
cymorth i ddioddefwyr.
Gwelliant 7. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno hyfforddiant i
athrawon ar sut i ddelio â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â chasineb mewn
ysgolion, a chymryd camau i atal ysgolion rhag cadw hyn yn gudd.
Gwelliant 8. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wella cydlyniant cymunedol
yn dilyn digwyddiadau terfysgol gan mai dyma pryd y mae troseddau casineb yn
erbyn Mwslimiaid yn tueddu i gynyddu.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/06/2021
Angen Penderfyniad: 17 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS