P-05-785 Atal Trwydded Forol 12/45/ML i ollwng gwaddodion morol ymbelydrol o safle niwclear Hinkley Point yn nyfroedd glannau Cymru ger Caerdydd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Tim Deere-Jones, ar ôl casglu 7,033 o lofnodion ar-lein a 138 ar bapur – cyfanswm o 7,171 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gyfarwyddo Cyfoeth Naturiol Cymru i atal y drwydded y mae wedi'i rhoi i NNB Genco, sy'n caniatáu gollwng hyd at 300,000 o dunelli o ddeunydd a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, yn nyfroedd glannau Cymru.

 

Rydym hefyd yn gofyn bod cyfnod atal y drwydded yn cael ei ddefnyddio fel cyfle i sicrhau bod asesiad llawn o'r effaith Amgylcheddol, dadansoddiad radiolegol cyflawn a samplu craidd yn cael eu cynnal o dan arweiniad Cyfoeth Naturiol Cymru, a bod ymchwiliad cyhoeddus, gwrandawiad llawn o dystiolaeth annibynnol ac ymgynghoriad cyhoeddus yn cael eu cynnal cyn rhoi caniatâd i ollwng unrhyw waddodion o Hinkley.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Mae Trwydded Forol 12/45/ML, a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn caniatáu gwaredu hyd at 300,000 o dunelli metrig o waddod morol a halogwyd yn ymbelydrol, wedi'i garthu o wely'r môr ar safle pwerdy niwclear Hinkley Point, ar safle dympio morol Cardiff Grounds yn agos at arfordir de Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i waith ddechrau ar y ddwy bibell newydd yn adweithydd niwclear Hinkley C.

 

Mae'r gwaddodion sydd i'w carthu wrth ymyl y pibellau gwastraff a ddefnyddir ar gyfer gollyngiadau o bedwar adweithydd presennol Hinkley. Mae dadansoddiad a gomisiynwyd gan asiantaethau Llywodraeth y DU yn dangos bod y gwaddod wedi'i halogi gan wastraff ymbelydrol a ryddhawyd i'r môr dros gyfnod o 50 mlynedd a mwy o waith ar safle Hinkley. Mae'r cyfrifiadau sy'n deillio o'r data swyddogol yn nodi y gallai'r gwaddodion carthu arfaethedig fod yn dal o leiaf 7 biliwn o Bqs o ymbelydredd, ond mae'r adroddiadau yn nodi y byddai'r symiau y byddai pobl yn dod i gysylltiad â nhw'n isel iawn.

 

Mae gollyngiadau ymbelydrol Hinkley i'r môr yn cynnwys dros 50 o radio-niwclidau, ond dim ond tri ohonynt yr ymchwiliwyd iddynt drwy'r dadansoddiad. Felly, bydd cynnwys ymbelydredd gwirioneddol y gwaddodion yn llawer uwch na'r hyn a ddangosir drwy'r dadansoddiad sydd ar gael.  Mae'r dystiolaeth sydd ar gael hefyd yn awgrymu mai dim ond samplau arwynebol (0 i 5cm o ddyfnder) o'r gwaddodion a ddadansoddwyd, er bod ymchwil samplau craidd o fannau eraill ym Môr Iwerddon yn dangos y gall crynodiadau fod hyd at bum gwaith yn uwch ar ddyfnderoedd islaw 5cm.

 

Er bod deunydd ymbelydrol gwaddodol yn debygol o wasgaru i ddechrau, mae astudiaethau'n profi ei fod wedyn yn ailgronni ar wastadeddau llaid arfordirol ac aberol a morfeydd heli, a'i fod hefyd yn gallu cael ei drosglwyddo o'r môr i'r tir yn sgil gwyntoedd o'r môr a llifogydd arfordirol. Rydym yn nodi nad oes ymchwil ar yr hyn sy'n digwydd i ymbelydredd o'r fath yn nyfroedd glannau de Cymru.  Yn y cyd-destun hwn, rydym yn pryderu nad oes gwaith ymchwil digonol wedi digwydd ynghylch y risgiau amgylcheddol a'r risgiau i iechyd pobl yn sgil y gwaredu arfaethedig, a bod unrhyw gasgliadau sy'n seiliedig ar y data anghyflawn presennol yn annibynadwy.

 

Y môr

Y môr

 

Statws

Caeodd y Pwyllgor y ddeiseb hon ar ôl cyhoeddi ei adroddiad a dadl dilynol yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mai 2018.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2017

Dogfennau