P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

P-05-775 Caewch y bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith trwyddedu tacsis.

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Taxi Drivers of Cardiff, ar ôl casglu 390 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru, yng nghyd-destun ei hymgynghoriad ar y diwygiadau i gyfreithiau trwyddedu tacsis, i gau'r bwlch sy'n ymwneud â gweithio trawsffiniol ac is-gontractio yn y gyfraith, gan olygu bod cannoedd o dacsis a cherbydau hurio preifat o'r tu allan i'r dref yn heidio i Gaerdydd i weithio ar sail hurio preifat.

​​​

​​​Gwybodaeth ychwanegol:

​​​Mae digon o gerbydau trwyddedig yng Nghaerdydd i wasanaethu'r ddinas heb fod angen y ceir hyn o leoedd mor bell i ffwrdd â Llundain, Glannau Mersi, Canolbarth Lloegr ac ati yn ogystal ag awdurdodau cyfagos fel Casnewydd, y Fro a Rhondda Cynon Taf ac ati. Cafwyd cerbydau hyd yn oed nad oeddynt yn gweithio ar unrhyw lwyfan, gan weithredu'n anghyfreithlon a chuddio y tu ôl i'r ffaith fod cynifer o dacsis 'estron' yn y ddinas.

​​​Nid oes DIM marciau ar lawer o'r cerbydau hyn, sy'n dirmygu'r safonau a osodwyd gan Gyngor Sir Caerdydd ar gyfer cerbydau y mae'n eu trwyddedu, gan gynnwys lifrai amlwg iawn a gwybodaeth fanwl am y strydoedd lleol. Gwaetha'r modd dim ond mater o amser yw hi cyn i rywun agored i niwed neidio i mewn i gar heb drwydded, â chanlyniadau trychinebus.

​​​Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i sicrhau mai'r unig dacsis a cherbydau hurio preifat y caniateir iddynt weithio yng Nghaerdydd yw'r rhai a drwyddedwyd gan Gyngor Sir Caerdydd. Y rheswm am hyn yw i sicrhau diogelwch y cyhoedd ac i sicrhau nad yw Caerdydd yn cael ei gorlenwi â mwy o geir na'r hyn sydd ei angen gan y bydd hynny'n arwain at fwy fyth o dagfeydd a llygredd yn ein prifddinas os caniateir i'r sefyllfa barhau. Bydd hefyd yn rhoi cyfle i yrwyr presennol a drwyddedir gan Gyngor Caerdydd ennill rhywbeth sy'n agosáu at fod yn gyflog byw.​​​

​​​

​​​Cyflwyniad deiseb efo’r deisebwyr

​​​Cyflwyniad deiseb efo’r deisebwyr

​​​

​​​​​​Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/02/2020 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Ystyriodd y Pwyllgor y ddeiseb ochr yn ochr â P-05-835 Caniatáu i Yrwyr Tacsi Symud yn Rhydd i wneud Gwaith Hurio Preifat Unrhyw Le yng Nghymru a chytunwyd i gau’r deisebau o ystyried bod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth bellach wedi diystyru mynd ar drywydd newid deddfwriaethol yn y maes hwn yn ystod gweddill y Cynulliad hwn, ac mae Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd sawl mesur a newidiadau polisi gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn y cyfamser.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 21/11/2017.

​​​

​​​Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • ​​​De Caerdydd a Phenarth
  • Canol De Cymru

​​​

​​​Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Gwelliant

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 03/10/2017