P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

P-05-783 Sicrhau Cydraddoldeb Cwricwlwm i Ysgolion Cyfrwng Cymraeg e.e. Seicoleg TGAU

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Chris Evans, ar ôl casglu 652 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rwyf yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i atal Cymwysterau Cymru rhag parhau i wahaniaethu yn erbyn dysgwyr cyfrwng Cymraeg, a sicrhau cydraddoldeb ieithyddol o ran cwricwlwm ysgol.

Yn 2015, penderfynodd CBAC ollwng Seicoleg TGAU oherwydd niferoedd ymgeiswyr cymharol fach (37 canolfan - 5 yn rhai cyfrwng Cymraeg gyda 144 ymgeisydd cyfrwng Cymraeg bob blwyddyn). Oherwydd hyn, rhoddwyd gwahoddiad gan Gymwysterau Cymru (CC) i'r Cyrff Dyfarnu Saesneg; AQA, OCR, Pearson-Edexell,  gynnig y pwnc hwn, a rhai eraill e.e. Economeg, yng Nghymru.

Yn anffodus, ac yn anghrediniol, ni roddwyd unrhyw bwysau arnynt i gynnig y pynciau yma yn y Gymraeg. Ymateb Cymwysterau Cymru i hyn yw dweud y byddai'r Cyrff Saesneg yn gwrthod cynnig pynciau yng Nghymru yn gyfan gwbl pe tase nhw yn cael eu gorfodi i gynnig opsiwn Cymraeg, a bod CC yn ceisio sicrhau 'y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru' (Cylchlythyr CC, Rhagfyr 2016).

'Y dewis ehangaf o bynciau i ddysgwyr Cymru'....heblaw eich bod yn dilyn addysg Gymraeg! Ym mis Medi, ni fydd cwrs Seicoleg TGAU blwyddyn 10 yn rhedeg yn fy ysgol am y tro cyntaf ers 2009, tra bod yr ysgol cyfrwng Saesneg ychydig filltiroedd i ffwrdd, yn cychwyn ar gwrs Seicoleg TGAU newydd yn Saesneg trwy AQA. Yr unig reswm pam nad wyf gallu cynnig y pwnc yw oherwydd ein bod yn dysgu drwy'r Gymraeg. Mae pedair canolfan Gymraeg arall yn yr un sefyllfa.

Mae angen Seicolegwyr sy'n gallu trafod eu pwnc drwy'r Gymraeg. Wrth amddifadu disgyblion cyfrwng Cymraeg rhag y cyfle i astudio Seicoleg TGAU drwy'r Gymraeg, dyna golli 144 myfyriwr y flwyddyn fyddai efo'r potensial o gyfrannu at Seicoleg - fel athro, darlithydd, therapydd, ymchwilydd a.y.b drwy'r Gymraeg yn hyderus oherwydd bod y derminoleg berthnasol yn gyfarwydd iddynt.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

​Safodd 144 ymgeisydd bapur Uned 2 TGAU Seicoleg CBAC drwy'r Gymraeg i orffen y cwrs yn 2015, a 5 canolfan yn ei gyflwyno, felly mae potensial o niferoedd sylweddol, nid llond llaw. Rwyf wedi trefnu y byddai tri arholwr Seicoleg profiadol ar gael i weithio i unrhyw Fwrdd Saesneg fel na fyddai angen cyfieithu unrhyw sgriptiau (atebion) ymgeiswyr, ond y papur ei hun.

Yr unig Fwrdd Saesneg wnaeth hyd yn oed ystyried y cais (gen i, nid CC), oedd Pearson, ond gwrthod wnaethon nhw yn y diwedd gan ddweud 'y byddai angen Cymry Cymraeg ar bob lefel o gynhyrchu'r papurau'. Mae hynny'n nonsens llwyr oherwydd dydy hynny ddim yn digwydd hyd yn oed yn CBAC ble mae'r Prif Arholwr a'r Swyddog Pwnc yn ddi-Gymraeg!

Nid wyf yn beio'r Byrddau, oherwydd pam dyle nhw fynd i'r drafferth os nad oes rhaid iddyn nhw? Ar Gymwysterau Cymru y mae'r bai am eu polisi llipa, nad yw'n amddiffyn hawliau dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Byddai hi wedi bod yn bosibl creu elfen o gystadleuaeth rhwng y Byrddau Saesneg trwy roi blaenoriaeth i rai a fyddai'n agored i'r syniad o gynnig opsiwn Cymraeg, ond doedd dim ymdrech i wneud hyn o gwbl.

Mae hyn yn hollol annerbyniol yn y Gymru Fodern. Os ydy Cyrff Dyfarnu Saesneg yn cael cynnig pynciau yng Nghymru, rhaid gwneud yn glir iddyn nhw bod angen cynnig papur Cymraeg ble mae cais rhesymol dros wneud hyn.

 

Disgybl

Disgybl

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

It was first considered by the Petitions Committee on 07/11/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2017