P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

P-05-782 Adeiladu Ffordd Osgoi Cas-gwent i Gael Gwared ar y Tagfeydd oddi ar yr M48 i'r A48

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jez Becker, ar ôl casglu 201 o lofnodion ar-lein.

 

Geiriad y ddeiseb

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ymdrin yn ymarferol â'r broblem tagfeydd ar yr A48 drwy Gas-gwent unwaith ac am byth.

Mae lleihau'r doll ar Bont Hafren yn cynnig cyfle anferthol am dwf yn Sir Fynwy, Fforest y Ddena a de-orllewin Cymru. Fodd bynnag, mae seilwaith y ffordd yn annigonol. Mae'r A48 eisoes yn dioddef tagfeydd ac ansawdd aer gwael drwy dref Cas-gwent. Gyda'r ystadau tai newydd yn Sir Fynwy a Fforest y Ddena, mae'r cynigion presennol yn methu, mewn modd annerbyniol, i hwyluso twf.

Mae'r cynllun hwn wedi bod yn ddyhead ers y 1960au ac oni bai y bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU o'r diwedd yn cydweithredu ac yn ymrwymo, yna bydd y ffyniant economaidd sydd o fewn cyrraedd yn cael ei atal, gan adael, yn lle hynny, i ansawdd bywydau preswylwyr ddirywio a llesteirio datblygiad economaidd cynaliadwy.

 

Gwybodaeth ychwanegol

​Enghraifft dda o sut mae'r mater hwn wedi cael ei esgeuluso gan bob cangen o lywodraeth yw bod chwaer ddeiseb wedi'i chyflwyno i Lywodraeth y DU gan ei bod wedi gwrthod y gwreiddiol gan ddweud ei fod yn fater i Gymru yn unig.

Rydym yn gofyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru sicrhau nad yw'r llwybr trafnidiaeth hanfodol hwn yn dod yn syrthio i'r fagl o gael ei basio i ochr arall y ffin.

 

Ffordd

Ffordd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 19/06/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 07/11/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Mynwy
  • Dwyrain De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 31/10/2017