NDM6507 - Dadl: Data - Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd
NDM6507 - Dadl: Data - Cynyddu Agoredrwydd ac Argaeledd
NDM6507 Jane
Hutt (Bro Morgannwg):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddata agored yn
sgil cyhoeddi ein Cynllun Data Agored cyntaf erioed a'i weithredu'n barhaus.
2. Yn nodi'r cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru hyd
yma, ynghyd â chynlluniau parhaus i wneud data yn fwy agored a sicrhau eu bod
yn fwy hygyrch.
3. Yn cefnogi uchelgais Llywodraeth Cymru i dynnu ar
bwerau deddfwriaethol i ddatblygu canllawiau sy'n annog pob rhan o'r sector
cyhoeddus yng Nghymru i wneud mwy o ddefnydd o ddata agored ac i gyhoeddi mwy.
4. Yn cefnogi nod Llywodraeth Cymru i addasu prosesau ar
gyfer caffael nwyddau neu wasanaethau i hyrwyddo bod yn agored a thryloyw.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda sefydliadau
cyhoeddus, preifat a thrydydd sector i wella prosesau rhannu data a lleihau
dyblygu yn y broses o gasglu data ledled Cymru.
Gwelliant 2. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru yn y broses o
gydweithio â rhanddeiliaid a chyrff allweddol i sicrhau bod casglu data yn
canolbwyntio ar gael y wybodaeth gywir i ddylanwadu ar newidiadau cadarnhaol
mewn polisi a'u cyflawni.
Gwelliant 3. Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru weithio i sicrhau bod
awdurdodau lleol yn dilyn yr esiampl a osodir gan Gyngor Sir Fynwy a reolir gan
y Ceidwadwyr drwy gyhoeddi ei holl wariant.
Gwelliant 4. Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid casglu data perfformiad a'i gyhoeddi
mewn modd sy'n galluogi cymariaethau â gwledydd eraill yn y DU.
Math o fusnes: Gwelliant
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/06/2021
Angen Penderfyniad: 26 Medi 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Prif Aelod: Jane Hutt AS