NDM6520 - Dadl Plaid Cymru

NDM6520 - Dadl Plaid Cymru

NDM6520 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod prinder meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill yn peri risgiau i ddiogelwch cleifion a'r gallu i gyflenwi gwasanaethau'n ddiogel.

2. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i weithredu cynllun gweithlu effeithiol a chynaliadwy ar gyfer GIG Cymru.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 28/09/2017

Angen Penderfyniad: 4 Hyd 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd