NDM6506 - Dadl Plaid Cymru

NDM6506 - Dadl Plaid Cymru

NDM6506 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wrthwynebu adeiladu uwch garchar ym Mhort Talbot.

2. Yn galw ymhellach ar Lywodraeth Cymru i:

a) beidio â gwerthu neu ryddhau tir Llywodraeth Cymru at ddibenion adeiladu'r uwch garchar arfaethedig;

b) datblygu'r economi leol drwy gefnogi busnesau yn y parc diwydiannol; a

c) gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU yn cefnogi'r dewisiadau amgen i garchardai mawr. 

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/09/2017

Angen Penderfyniad: 20 Medi 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd