P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

P-05-780 Ailagor Gorsaf Carno

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Carno Station Action Group, ar ôl casglu 877 o lofnodion ar bapur.

 

Geiriad y ddeiseb:

Rydym ni, sydd wedi llofnodi isod, yn croesawu’r gwaith o ddatblygu Achos Busnes ar gyfer ailagor gorsaf Carno, yn dilyn deiseb Grŵp Gweithredu Gorsaf Carno i’r Cynulliad 10 mlynedd yn ôl. Rydym yn nodi bod yr achos busnes diwygiedig yn dangos cymhareb o 1.65 o ran manteision i gostau ac y byddai stopio’r rhan fwyaf o drenau yng Ngharno yn cyd-fynd â’r amserlen lawnach bresennol. Mae Carno yn gymuned cymharol anghysbell, sydd wedi’i lleoli ar y darn hiraf o reilffordd heb orsaf weithredol arni yng Nghymru gyfan. Byddai cael gorsaf yma yn rhoi mynediad llawer gwell a chynaliadwy at swyddi a gwasanaethau. Felly, rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i ailagor gorsaf Carno yn unol ag amserlen o bum mlynedd.

 

Y deisebwyr yn cyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd

Y deisebwyr yn cyflwyno'r ddeiseb i’r Senedd

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/07/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/10/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Maldwyn     
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 04/10/2017