P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

P-05-776 Cydnabod tri chan mlwyddiant Williams Pantycelyn

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Aled Gwyn Job, ar ôl casglu 545 o lofnodion ar-lein a 569 ar bapur – cyfanswm o 1,114 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb

Galwn ar Lywodraeth Cymru i gydnabod a choffáu tri chan mlwyddiant geni William Williams, Pantycelyn eleni (1717-2017). Credwn fod Williams Pantycelyn wedi gosod y seiliau ar gyfer y Gymru Fodern trwy ei holl emynau (dros 900), ei weithiau llenyddol amrywiol (90), a'i genhadu diflino dros yr efengyl trwy Gymru ben baladr am 40 mlynedd. Arweiniodd Diwygiadau Methodistaid y 18fed ganrif, y bu Williams yn rhan mor allweddol ohonynt, at sefydlu'r corff cenedlaethol cyntaf yn hanes Cymru ers 400 mlynedd, sef Methodistiaid Calfinaidd Cymru (1811). Roedd hwnnw yn ei dro yn gyfrwng i sbarduno cyfres o ddiwygiadau addysgol, cymdeithasol a gwleidyddol pellach fu'n gwbl ganolog wrth greu'r Gymru Fodern. Mae Pantycelyn felly yn fwy na dim ond un o ffigurau mawr y traddodiad ffydd yng Nghymru. Mae'n un o ffigurau mawr ein stori genedlaethol fel Cymry. Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei gyfraniad anferthol i'n cenedl a galwn ar y Llywodraeth i drefnu dathliad priodol wedi i'r aelodau ddychwelyd i Gaerdydd ym mis Medi.

 

Gwybodaeth ychwanegol

Nodwn fod Llywodraeth Cymru wedi trefnu dathliadau cyffelyb i nodi cyfraniadau dau o Gymry amlwg eraill yn ddiweddar. Y llynedd, dathlwyd cyfraniad y nofelydd plant Roald Dahl, a'r flwyddyn gynt, dathlwyd cyfraniad y bardd Dylan Thomas. Gwariwyd symiau helaeth o arian trethdalwyr Cymru ar y digwyddiadau hyn.


Gyda chynsail fel hon wedi ei gosod ddwywaith yn ddiweddar, credwn y byddai'n anesgusodol i'n llywodraeth genedlaethol wrthod cydnabod cyfraniad Williams Pantycelyn yn yr un modd.
Gyda phob dyledus barch i Dylan Thomas a Roald Dahl, a'u cyfraniadau unigol yn eu meysydd priodol - does dim modd cymharu eu cyfraniadau hwy i fywyd Cymru gyfan gyda chyfraniad y Pêr Ganiedydd, William Williams.


Bu ymateb cyhoeddus ffyrnig yn ddiweddar i ffiasgo " Y Cylch Haearn" a'r syniad hwn o wario £400,000 i ddathlu goresgyniad Cymru gan Edward I gyda darn o gelf yng Nghastell y Fflint. Y gŵyn a gafodd ei mynegi dro ar ôl tro gan aelodau o'r cyhoedd oedd, sut ar wyneb y ddaear gallai Llywodraeth Cymru fod mor anwybodus ac ansensitif am hanes Cymru ei hun?


Byddai dathlu a choffáu bywyd a gwaith Williams Pantycelyn mewn modd priodol yn dangos fod gan Lywodraeth Cymru ymdeimlad tuag at ein hanes cenedlaethol. 
Un syniad y carem ichi ei ystyried ydy trosglwyddo'r arian a ddynodwyd ar gyfer y Cylch Haearn a chodi darn o gelf aruchel yn Llanymddyfri i gofio am Y Pêr Ganiedydd.

 

Y deisebwyr efo Aelodau’r Pwyllgor

Y deisebwyr efo Aelodau’r Pwyllgor

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 15/05/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/10/2017.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad:

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2017