P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)
P-05-774 Ewch Heibio’n Llydan ac yn Araf (Cymru)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jocelle Lovell, ar ôl casglu
723 o lofnodion ar-lein a 1,032 ar bapur – cyfanswm o 1,755 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad
Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i weithredu ymgyrch ddiogelwch
‘addysg gyhoeddus’ flynyddol i addysgu holl ddefnyddwyr y ffordd sut i fynd
heibio i geffylau a marchogwyr yn ddiogel, ac sy’n tynnu sylw at y peryglon /
canlyniadau o beidio â gwneud hynny.
Rydym yn ymwybodol o ddeiseb yn y DU gyfan sy’n ymgyrchu dros lunio cyfraith ar
basio ceffylau ar y ffordd yn llydan ac araf
(https://www.change.org/p/uk-govt-make-it-law-to-pass-by-a-horse-wide-and-slow-and-abide-by-our-hand-signals)
ac yn ei chefnogi, ond byddai’n well gennym weld addysg a dulliau atal yn
hytrach na gweld erlyniadau yn dilyn digwyddiad difrifol neu angheuol.
Mae gan Lywodraeth Cymru y cyfle i fanteisio ar y deunyddiau a’r wybodaeth sydd
eisoes ar gael yn sgîl ymgyrchoedd presennol fel: ‘Dead Slow’, sef ymgyrch
diogelwch ar y ffordd Cymdeithas Ceffylau Prydain,
(http://www.bhs.org.uk/safety-and-accidents/dead-slow ), tra bydd yn
pwysleisio materion penodol sy’n wynebu defnyddwyr y ffordd yng Nghymru. Mae’r
materion hyn yn cynnwys y cysylltiadau agos rhwng cymunedau trefol a chymunedau
gwledig yng Nghymru, a phoblogrwydd Cymru fel cyrchfan i dwristiaid. Mewn
cymunedau mwy trefol (e.e. yr ardal gymudo o amgylch Caerdydd), mae swm sylweddol
o draffig sy’n defnyddio ffyrdd gwledig, naill ai fel llwybr byr neu fel prif
lwybr mynediad. Mewn rhannau eraill o Gymru (e.e. Caerfyrddin a Sir Benfro)
ceir mewnlifiad blynyddol o ymwelwyr nad oes ganddynt lawer o brofiad o weld
ceffylau ar y ffyrdd.
Y cyfan a ofynnwn yw bod gyrwyr yn dynodi marchogwyr fel defnyddwyr ffyrdd sy’n
agored i niwed, a bod yn fwy ystyriol wrth fynd heibio i geffylau. Rydym yn
teimlo mai’r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy arweiniad Llywodraeth Cymru, yn
unol â’u hymrwymiad i ‘Weithio gyda chynrychiolwyr o’r gymuned marchogaeth i
ddeall eu pryderon ynghylch diogelwch y ffyrdd a sut i hwyluso ymgysylltiad â
phartneriaid eraill.’ (Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru
(Gorffennaf 2013)).
Gwybodaeth ychwanegol:
Mae Cymdeithas
Ceffylau Prydain (BHS) yn amcangyfrif bod y diwydiant ceffylau o werth
economaidd o £7 biliwn, a’i fod yn cyflogi 220,000 - 270,000 o bobl. Mae hyn,
ochr yn ochr â’r manteision iechyd a lles sy’n gysylltiedig â marchogaeth
ceffylau yn golygu ei fod yn rhan bwysig o fywyd Cymru. Ond, yn gynyddol,
teimlir nad yw llais marchogwyr yn cael ei glywed.
Byddai llawer o farchogwyr yn dewis peidio â defnyddio priffyrdd cyhoeddus,
ond, gan fod faint o lwybrau ceffylau hygyrch sydd ar gael yn amrywio ledled
Cymru, nid oes fawr o ddewis ganddynt yn aml iawn.
Mae Fframwaith
Diogelwch y Ffyrdd Llywodraeth Cymru (Gorffennaf 2013) yn cydnabod bod ceffylau
a’u marchogwyr (yn ogystal â gyrwyr cerbydau ceffylau) yn agored i niwed ar y rhwydwaith
ffyrdd, ac y gall gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd arwain at ganlyniadau
sy’n bygwth bywyd ar gyfer y ceffyl, y marchog a phobl mewn ceir a cherbydau
eraill. Mae hefyd yn datgan bod yna dystiolaeth sy’n awgrymu nad oes cofnod
manwl o nifer y gwrthdrawiadau traffig ar y ffyrdd sy’n ymwneud â cheffylau.
Wrth i nifer y tai newydd sy’n cael eu hadeiladu mewn lleoliadau gwledig /
lled-wledig gynyddu, gwelir cynnydd yn swm y traffig ar ffyrdd gwledig, sy’n
cael eu defnyddio’n aml gan beiriannau fferm, ceffylau a marchogion. Mae llawer
o yrwyr, newydd a phrofiadol, yn aml nad ydynt yn gwybod am y peryglon posibl o
yrru’n gyflym ar y ffyrdd hyn, ac nid yw llawer yn gwybod sut i basio ceffylau
yn ddiogel. Nid yw’r ffaith bod y terfyn cyflymder cyfreithiol ar y ffyrdd hyn
yn 60 milltir yr awr, yn golygu ei bod yn ddiogel i yrru ar y cyflymder
hwnnw.
Ar ben hynny, mae tystiolaeth gan Gymdeithas Ceffylau
Prydain (http://www.bhs.org.uk/our-charity/press-centre/news/jan-to-jun-2016/riding-and-road-safety-campaign )
sy’n dangos bod cynnydd o ran y digwyddiadau sy’n ymwneud â cheffylau,
marchogion a cherbydau modur ar y ffordd ym mis Mehefin. Er bod y rhesymau dros
y cynnydd hwn yn parhau’n aneglur, mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â gyrwyr ar
eu gwyliau ar ffyrdd anghyfarwydd mewn amgylchiadau anghyfarwydd.
Deisebwyr yn cyflwyno'r ddeiseb i'r
Pwyllgor
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/10/2017.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2017