P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!
P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!
Cyflwynwyd
y ddeiseb hon gan Claire Perrin, ar ôl casglu 33 o lofnodion ar-lein a 139 ar
bapur – cyfanswm o 172 lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i naill ai
rhoi sticeri bin du newydd (gweler yr enghraifft sydd
wedi’u chynnwys*) neu finiau olwyn
printiedig sy’n annog aelwydydd ledled Cymru i ystyried cynnwys y bin cyn ei
adael ar ymyl y ffordd i’w gasglu.
Teimlwn, drwy ddisgrifio’r bin yn benodol fel
bin ‘tirlenwi’, y bydd hyn yn fodd o atgyfnerthu’r ystyriaeth a roddir i’r
eitemau sydd ynddo. Rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth ffeithiol am faint o
amser y bydd rhai eitemau bob dydd yn aros mewn safleoedd tirlenwi os nad ydynt
yn cael eu hailgylchu. Credwn fod hyn yn bwerus iawn, ac y gall wella ymrwymiad
Cymru i ailgylchu, ac felly y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer y
dyfodol.
Yn y pen draw, rydym am annog pobl i ailgylchu
rhagor, yn ogystal â helpu i leihau faint o nwyddau ailgylchadwy sy’n mynd i
safleoedd tirlenwi.
*Dim ond fersiwn Saesneg o’r ddelwedd sydd ar
gael oherwydd y cafodd ei chyflwyno fel rhan o’r ddeiseb.
Gwybodaeth
ychwanegol:
Fy enw i yw Claire Perrin ac rwy’n athrawes yn y
Celtic English Academy. Ar ddechrau’r tymor hwn, dechreuais brosiect dosbarth
ar ailgylchu, ac anogais fy neg o ddisgyblion i nodi’r opsiynau posibl sydd gan
breswylwyr yn y brifddinas. Darganfuwyd hefyd bod Cymru’n rhagori ar ei hymrwymiad
i leihau gwastraff tirlenwi erbyn 2025 a’i bod yn arwain y ffordd i weddill y
DU o ran gwella mynediad at ganolfannau ailgylchu ac o ran casgliadau o
gartrefi yn gyffredinol.
Fodd bynnag, dechreuodd fy nisgyblion sylwi bod
llawer o bobl nad ydynt yn ailgylchu’n gywir. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau
ffotograffig o fagiau ailgylchu gwyrdd mewn biniau olwyn du, bwyd mewn bagiau
gwyrdd a du ar ymyl ffyrdd ac eitemau y gellir eu hailgylchu mewn bagiau du.
Cynhaliwyd trafodaethau yn y dosbarth ar y rhesymau posibl pam bod hyn yn
digwydd. Cynhaliwyd arolwg hefyd a oedd yn gofyn i bobl adnabod y nwyddau
ailgylchadwy yn y rhestr ganlynol:
Cynhwysyddion bwyd anifeiliaid anwes; eitemau
hylendid personol; dalenni alwminiwm; cynhwysyddion bwyd cyflym; cylchgronau;
pecynnau creision; bocsys wyau; bagiau plastig; dillad
Canfuwyd bod llawer o bobl nad oeddent yn gwybod
pa eitemau y mae modd eu hailgylchu. Darganfuwyd hefyd nad oedd pobl yn
ystyried faint o amser y mae’n ei gymryd i eitemau safleoedd tirlenwi bydru.
Pan wnaethom roi gwybod hyn iddynt, cawsant gryn sioc ac roeddent yn awyddus i
wneud rhagor i ailgylchu. Roedd hyn yn sbardun i ni ddod o hyd i ateb posibl i
faint o eitemau a roddir, yn anghywir, mewn bagiau du / gwyrdd, a byddai modd
cyflwyno’r cam hwn ar draws Cymru, a thrwy hynny annog pobl i gymryd mwy o
gyfrifoldeb dros reoli eu gwastraff ac yn hynny o beth, atal eitemau y gellir
eu hailgylchu rhag cael eu hanfon yn syth i safleoedd tirlenwi.
Tirlenwi
Statws
Yn ei gyfarfod ar 27/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2017
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor
o wybodaeth
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2017