P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

P-05-773 Peidiwch â Llenwi Safleoedd Tirlenwi!

http://senedd.cynulliad.cymru/SiteSpecific/ArrowGraphics/Petitions_Arrows_04.jpg

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Claire Perrin, ar ôl casglu 33 o lofnodion ar-lein a 139 ar bapur – cyfanswm o 172 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​​​Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i naill ai rhoi sticeri bin du newydd (gweler yr enghraifft sydd wedi’u chynnwys*) neu finiau olwyn printiedig sy’n annog aelwydydd ledled Cymru i ystyried cynnwys y bin cyn ei adael ar ymyl y ffordd i’w gasglu.

Teimlwn, drwy ddisgrifio’r bin yn benodol fel bin ‘tirlenwi’, y bydd hyn yn fodd o atgyfnerthu’r ystyriaeth a roddir i’r eitemau sydd ynddo. Rydym wedi cynnwys ychydig o wybodaeth ffeithiol am faint o amser y bydd rhai eitemau bob dydd yn aros mewn safleoedd tirlenwi os nad ydynt yn cael eu hailgylchu. Credwn fod hyn yn bwerus iawn, ac y gall wella ymrwymiad Cymru i ailgylchu, ac felly y byddwn yn cyrraedd ein targedau ar gyfer y dyfodol. 

Yn y pen draw, rydym am annog pobl i ailgylchu rhagor, yn ogystal â helpu i leihau faint o nwyddau ailgylchadwy sy’n mynd i safleoedd tirlenwi.

*Dim ond fersiwn Saesneg o’r ddelwedd sydd ar gael oherwydd y cafodd ei chyflwyno fel rhan o’r ddeiseb.

 

Gwybodaeth ychwanegol:

Fy enw i yw Claire Perrin ac rwy’n athrawes yn y Celtic English Academy. Ar ddechrau’r tymor hwn, dechreuais brosiect dosbarth ar ailgylchu, ac anogais fy neg o ddisgyblion i nodi’r opsiynau posibl sydd gan breswylwyr yn y brifddinas. Darganfuwyd hefyd bod Cymru’n rhagori ar ei hymrwymiad i leihau gwastraff tirlenwi erbyn 2025 a’i bod yn arwain y ffordd i weddill y DU o ran gwella mynediad at ganolfannau ailgylchu ac o ran casgliadau o gartrefi yn gyffredinol.

Fodd bynnag, dechreuodd fy nisgyblion sylwi bod llawer o bobl nad ydynt yn ailgylchu’n gywir. Rydym wedi cynnwys enghreifftiau ffotograffig o fagiau ailgylchu gwyrdd mewn biniau olwyn du, bwyd mewn bagiau gwyrdd a du ar ymyl ffyrdd ac eitemau y gellir eu hailgylchu mewn bagiau du. Cynhaliwyd trafodaethau yn y dosbarth ar y rhesymau posibl pam bod hyn yn digwydd. Cynhaliwyd arolwg hefyd a oedd yn gofyn i bobl adnabod y nwyddau ailgylchadwy yn y rhestr ganlynol:

Cynhwysyddion bwyd anifeiliaid anwes; eitemau hylendid personol; dalenni alwminiwm; cynhwysyddion bwyd cyflym; cylchgronau; pecynnau creision; bocsys wyau; bagiau plastig; dillad         

Canfuwyd bod llawer o bobl nad oeddent yn gwybod pa eitemau y mae modd eu hailgylchu. Darganfuwyd hefyd nad oedd pobl yn ystyried faint o amser y mae’n ei gymryd i eitemau safleoedd tirlenwi bydru. Pan wnaethom roi gwybod hyn iddynt, cawsant gryn sioc ac roeddent yn awyddus i wneud rhagor i ailgylchu. Roedd hyn yn sbardun i ni ddod o hyd i ateb posibl i faint o eitemau a roddir, yn anghywir, mewn bagiau du / gwyrdd, a byddai modd cyflwyno’r cam hwn ar draws Cymru, a thrwy hynny annog pobl i gymryd mwy o gyfrifoldeb dros reoli eu gwastraff ac yn hynny o beth, atal eitemau y gellir eu hailgylchu rhag cael eu hanfon yn syth i safleoedd tirlenwi.

 

Tirlenwi

Tirlenwi

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 27/11/2018 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/07/2017

 

Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Gogledd Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/09/2017