P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

P-05-771 Ailystyried y penderfyniad i roi’r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru a’r angen i gefnogi pobl anabl i fyw'n annibynnol

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nathan Lee Davies, ar ôl casglu 324 o lofnodion ar-lein a 307 ar bapur – cyfanswm o 631 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:

​​​Fel rhywun sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ac yn ymgyrchu dros bobl anabl, rwy'n bwriadu gofyn i Lywodraeth Cymru ailystyried ei phenderfyniad i roi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru o fis Ebrill 2019 ymlaen. 
Cyflwynwyd Grant Byw'n Annibynnol Cymru i helpu pobl a oedd yn arfer hawlio arian gan Gronfa Byw'n Annibynnol Llywodraeth y DU, a gaewyd yn 2015. Mae'r cynllun yn helpu mwy na 1,500 o bobl ledled Cymru. Mae gan bawb sy'n cael y Grant lefel uchel o anghenion gofal a chymorth.
Y bwriad oedd rhoi'r gorau i'r cynllun ym mis Mawrth 2017, ond ym mis Tachwedd, dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol, y byddai'r cyllid yn parhau am flwyddyn arall.
Yna, bydd y gronfa £27 miliwn yn cael ei throsglwyddo'n uniongyrchol i awdurdodau lleol yn ystod 2018-19 fel y gallant ddiwallu anghenion cymorth y rhai a oedd yn arfer cael arian drwy'r Gronfa Byw'n Annibynnol erbyn 31 Mawrth 2019.

​​​

​​​Gwybodaeth ychwanegol:

​​​Pam yr ydym yn gwrthwynebu'r penderfyniad:

​​​

​​​Dywedodd Llywodraeth Cymru fod y penderfyniad wedi'i wneud ar sail cyngor gan randdeiliaid. Cynrychiolwyr o'r trydydd sector neu ddinasyddion oedd y mwyafrif ar y grŵp rhanddeiliaid.  Ond nid oeddynt eisiau cael gwared ar Grant Byw'n Annibynnol Cymru, a'r pwynt allwedd ol yw na chafodd ein cyngor ei dderbyn.

​​​

​​​Dylid cofio hefyd nad oes yn rhaid rhoi'r gorau i Grant Byw'n Annibynnol Cymru, ac mae llwyddiant Cronfa Byw'n Annibynnol yr Alban yn brawf o hynny; sydd hefyd yn ddadl o blaid cefnogi Cronfa Byw'n Annibynnol Gogledd Iwerddon.

​​​

​​​At hyn ny, roedd maniffesto poblogaidd y blaid Lafur yn nodi cynlluniau i sefydlu system ofal gene dlaethol a fyddai'n annibynnol ar awdurdodai lleol.

​​​

​​​Dyma'r union amser y dylai'r Blaid Lafur uno yn erbyn y Torïaid ar faterion o'r fath. Rhaid i ni gwestiynu pam nad yw Plaid Lafur Cymru yn chwarae ei rhan wrth newid y tirlun gwleidyddol?

​​​
Yn wir, yn y pen draw, dylem fod yn anelu at sefydlu Cronfa Byw'n Annibynnol i Gymru fel nad oes yn rhaid i unrhyw berson anabl ddioddef yr ansicrwydd a'r unigedd a wynebir gan y rheini sy'n cael Grant Byw'n Annibynnol Cymru ar hyn o bryd. Ni allwn ddechrau credu bod gwir gyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb i bawb yn bosibl oni fydd Llafur Cymru yn ailystyried ei benderfyniad ynghylch Grant Byw'n Annibynnol Cymru.

​​​

​​​Mae'n siŵr y bydd Llafur Cymru yn dadlau y dylem roi cyfle i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) lwyddo. Fodd bynnag, mae angen buddsoddiad ac adnoddau sylweddol ar y Ddeddf ddelfrydyddol hon i sicrhau ei bod yn llwyddo – ac nid oes dim golwg o'r gwelliannau sydd eu hangen ar ein seilwaith er mwyn sicrhau bod y Ddeddf yn llwyddo. Efallai'n wir ei bod yn bryd cael chwyldro yn y ffordd y darperir gofal cymdeithasol, ond gallai'r fath drawsnewid gymryd degawd neu ragor, ac nid yw'r rhai sy'n derbyn Grant Byw'n Annibynnol Cymru yn haeddu cael eu trin fel arbrawf pan fo'u hanghenion o ran gofal a chymorth yn gofyn am sefydlogrwydd a strwythur hirdymor.

 

Cyflwyniad y ddeiseb i’r Pwyllgor

Cyflwyniad y ddeiseb i’r Pwyllgor

​​​

​​​Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

​​​Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 03/10/2017.

​​​

​​​​​​Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/09/2017

Dogfennau