Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf
Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf
Ym mis Gorffennaf
2017, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Gyllid
gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf.
Cafodd Ynni Sir Gâr
Cyf (menter ddielw) grant paratoadol o £25,000 gan Lywodraeth Cymru ynghyd â
benthyciad adeiladu gwerth £785,000, i’w dalu’n ôl, i helpu i dalu am adeiladu tyrbin gwynt 500kW
yn Salem, Sir Gaerfyrddin.
Nod rhaglen
Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y nifer y gosodiadau ynni adnewyddadwy
bach, lleol sydd yng Nghymru. Adeiladwyd CELT2 gan y datblygwyr masnachol,
Seren Energy, a’i brynu gan Ynni Sir Gâr Cyf am £1.5 miliwn gan ddefnyddio
£785,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyllid preifat.
Dechreuodd CELT2
gynhyrchu trydan ym mis Medi 2016 a, drwy ddefnyddio’r refeniw a gafwyd wrth
werthu’r trydan hwn, llwyddwyd i ad-dalu rhandaliadau’r benthyciad yn gynnar yn
ogystal â thalu am nifer o gynlluniau lleol fel waliau cerrig sychion, paneli solar
a storfa fatri yn y neuadd bentref gerllaw.
Trafododd y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad yn ystod tymor yr hydref 2017 a, gan yr ymdriniwyd â’r pryderon llywodraethu drwy’r
argymhellion yn yr adroddiad, cytunodd yr Aelodau i beidio â chynnal ymchwiliad
i’r mater hwn.
Math o fusnes: Arall
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2017
Dogfennau
- Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor at Gadeirydd Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - 11 Hydref 2017 PDF 134 KB
- Ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru (Saesneg yn unig) PDF 614 KB
- Adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru - Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf (Gorffennaf 2017) PDF 1 MB
- Datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor (20 Gorffennaf 2017) PDF 166 KB Gweld fel HTML (4) 18 KB