Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf

Cyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf

Ym mis Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru adroddiad ar Gyllid gan Lywodraeth Cymru i Ynni Sir Gâr Cyf.

 

Cafodd Ynni Sir Gâr Cyf (menter ddielw) grant paratoadol o £25,000 gan Lywodraeth Cymru ynghyd â benthyciad adeiladu gwerth £785,000, i’w dalu’n ôl,  i helpu i dalu am adeiladu tyrbin gwynt 500kW yn Salem, Sir Gaerfyrddin. 

 

Nod rhaglen Llywodraeth Cymru oedd cynyddu nifer y nifer y gosodiadau ynni adnewyddadwy bach, lleol sydd yng Nghymru. Adeiladwyd CELT2 gan y datblygwyr masnachol, Seren Energy, a’i brynu gan Ynni Sir Gâr Cyf am £1.5 miliwn gan ddefnyddio £785,000 o gyllid Llywodraeth Cymru yn ogystal â chyllid preifat.

 

Dechreuodd CELT2 gynhyrchu trydan ym mis Medi 2016 a, drwy ddefnyddio’r refeniw a gafwyd wrth werthu’r trydan hwn, llwyddwyd i ad-dalu rhandaliadau’r benthyciad yn gynnar yn ogystal â thalu am nifer o gynlluniau lleol fel waliau cerrig sychion, paneli solar a storfa fatri yn y neuadd bentref gerllaw. 

 

Trafododd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yr Adroddiad yn ystod tymor yr hydref 2017 a, gan yr ymdriniwyd â’r pryderon llywodraethu drwy’r argymhellion yn yr adroddiad, cytunodd yr Aelodau i beidio â chynnal ymchwiliad i’r mater hwn.

Math o fusnes: Arall

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/07/2017

Dogfennau