NDM6371 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6371 - Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig

NDM6371 Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol:

1. Yn credu:

a) bod Brexit yn galluogi pobl Cymru i gael mwy o reolaeth dros eu bywydau eu hunain drwy ddatganoli pwerau llywodraethol o dechnocrats anetholedig ym Mrwsel i Aelodau'r Cynulliad yng Nghaerdydd ac Aelodau Seneddol yn San Steffan;

b) y gall Brexit greu mwy o ffyniant ar gyfer amaethyddiaeth a'r economi wledig, drwy ddisodli'r CAP gan bolisi amaethyddol wedi'i deilwra'n arbennig ar gyfer anghenion penodol Cymru, gan gyfeirio'n arbennig at gadwraeth a diogelu'r amgylchedd yn seiliedig ar egwyddorion gwyddonol a achosi costau cymesur i drethdalwyr a busnesau gwledig.

2. Yn credu y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu polisïau eraill wedi'u teilwra'n arbennig ar gyfer ardaloedd gwledig o fewn agenda lleoliaeth sy'n grymuso pobl leol drwy:

a) gwneud penderfyniadau cynllunio mawr gydag effaith andwyol sylweddol ar ansawdd bywyd, megis ffermydd gwynt ymwthiol, yn amodol ar refferenda lleol;

b) gwneud newidiadau mawr i'r ddarpariaeth o ysgolion gwledig a gwasanaethau addysgol eraill yn amodol ar ymgynghori lleol dilys;

c) hwyluso tai gwledig mwy fforddiadwy; a

d) rhoi mwy o flaenoriaeth i ddarparu cyfleusterau GIG mewn trefi gwledig llai.

Math o fusnes: Dadl

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 13/07/2017

Angen Penderfyniad: 19 Gorff 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd