Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

Cyflwynwyd y Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau yn Nhŷ’r Arglwyddi ar 22 Mehefin 2017. Bil gan Lywodraeth y DU ydoedd ac fe’i noddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau. Ei amcanion polisi datganedig oedd:

 

  • creu un corff - y Corff Canllawiau Ariannol Sengl - sy'n gyfrifol am yr holl ganllawiau ariannol cyhoeddus, er mwyn galluogi'r cyhoedd i gael mynediad at gyngor ar ddyledion a chanllawiau ariannol diduedd, o ansawdd da ac am ddim;
  • gwneud newidiadau i reoleiddio Cwmnïau Hawliadau Rheoli (CMCS), gan drosglwyddo cyfrifoldeb rheoleiddio i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol er mwyn diogelu defnyddwyr rhag camymddygiad eang ar draws y sector, megis galwadau niwsans ac anogaeth o hawliadau twyllodrus.

 

Roedd y Bil yn ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Dilynir y broses hon pan fydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y Cynulliad fel arfer.

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol mewn perthynas â'r Bil Cyfarwyddyd Ariannol a Hawliadau  (PDF, 94KB) ar 5 Gorffennaf 2017.

 

Cyfeiriwyd y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol gan y Pwyllgor Busnes ar 18 Gorffennaf 2017 (PDF, 53KB) at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg a'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad oedd 5 Hydref 2017.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ei adroddiad ar y Memorandwm ar 8 Chwefror 2018.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ei adroddiad ar y Memorandwm ar 8 Chwefror 2018.

 

Pleidleisiodd y Senedd i roi cydsyniad i'r Bil ar 13 Chwefror 2018.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Llywodraeth;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 20/07/2017

Angen Penderfyniad: 18 Gorff 2017 Yn ôl Y Pwyllgor Busnes - Y Bumed Senedd

Angen Penderfyniad: Before 5 Hyd 2017 Yn ôl Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Y Bumed Senedd, Y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau Y Bumed Senedd

Dogfennau