NDM6356 - Dadl Plaid Cymru
NDM6356 - Dadl Plaid Cymru
NDM6356 Rhun
ap Iorwerth (Ynys Môn)
1.
Yn nodi bwriad Llywodraeth Cymru i gyhoeddi strategaeth er mwyn cyflawni miliwn
o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
2.
Yn nodi'r adroddiad ‘Cyrraedd y Miliwn’ gan Blaid Cymru sydd yn amlinellu yn
glir rhai o'r prif flaenoriaethau strategol ar gyfer tyfu'r nifer o siaradwyr
Cymraeg yng Nghymru i filiwn erbyn 2050.
3.
Yn galw am weithredu gan y Llywodraeth i:
a)
gynllunio ar gyfer twf sylweddol, a normaleiddio, addysg a gofal plant cyfrwng
Cymraeg;
b)
sicrhau fod ystyriaethau i'r iaith yn rhan annatod o gynllunio economaidd fel
rhan o gynnal y cyfundrefnau cynhaliol cyfredol a'r angen i hyn gael ei
adlewyrchu yn strategaeth economaidd arfaethedig Llywodraeth Cymru;
c)
gryfhau rôl Comisiynydd y Gymraeg i reoleiddio a hyrwyddo hawliau siaradwyr
Cymraeg ac ehangu safonau'r Gymraeg i’r sector breifat gan gynnwys y sector
delathrebu, banciau ac archfarchnadoedd;
d)
sefydlu asiantaeth hyd-braich newydd i hyrwyddo'r iaith ym meysydd addysg, y
gymuned a'r economi.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 29/06/2017
Angen Penderfyniad: 5 Gorff 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd