Adolygiad o'r cymorth staffio i’r Aelodau

Adolygiad o'r cymorth staffio i’r Aelodau

Gwnaeth y Bwrdd Taliadau, yn ei strategaeth ar gyfer 2016 – 2021, ymrwymo i adolygu strwythur gyrfa a chyflogau staff cymorth Aelodau’r Cynulliad a thrafod y ffordd orau o roi’r lefel addas o gymorth i Aelodau’r Cynulliad er mwyn galluogi iddynt weithio’n effeithiol mewn sefydliad gwleidyddol sy’n aeddfedu.

Cylch gorchwyl

Bydd y Bwrdd yn adolygu tystiolaeth bresennol a thystiolaeth newydd sy'n ymwneud â'r lwfans staffio a ddarperir i Aelodau, i sicrhau bod y gefnogaeth ariannol sydd ar gael yn cefnogi pwrpas strategol y Cynulliad ac yn hwyluso gwaith yr Aelodau ynghyd â sicrhau bod y system cefnogaeth ariannol i Aelodau yn gadarn, clir, tryloyw, cynaliadwy ac yn cynrychioli gwerth am arian i'r trethdalwr.

Bydd yr adolygiad yn ystyried:

  • digonolrwydd lefel y gefnogaeth a roddir i Aelodau;
  • pa mor hyblyg yw'r system gymorth gyfredol ar gyfer Aelodau, ac i ba raddau y'i gweithredir; a
  • addasrwydd telerau ac amodau cyfredol y Staff Cymorth.

Gweithgareddau ymgysylltu

Mae’r Bwrdd wedi cynnal nifer o ddigwyddiadau ymgysylltu ar gyfer Aelodau a’u staff cymorth i lywio’r gwaith o drafod y materion perthnasol.

Ymgynghoriadau cyhoeddus

Ymgynghoriad cyntaf

Ar 27 Mawrth, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion i ganiatáu rhagor o hyblygrwydd yn y Penderfyniad o ran y ffordd y caiff lwfansau presennol eu defnyddio, heb gynyddu lefel y lwfansau hyn.

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 24 Mai, a chytunodd i weithredu’r cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr diweddaru’r Bwrdd.

Ail ymgynghoriad

 

Ar 6 Mehefin, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion i gynyddu hyblygrwydd y lwfans mewn cysylltiad â’r Lwfans Cymorth i Bleidiau Gwleidyddol er mwyn cynnig rhywfaint o gydraddoldeb yn y ddarpariaeth i Aelodau a Phleidiau Gwleidyddol.

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law yn ei cyfarfod ar 11 Hydref, a chytunodd i weithredu’r cynigion. Mae’r manylion llawn wedi’u nodi yn llythyr diweddaru’r Bwrdd.

Trydydd ymgynghoriad

Ar 24 Hydref, lansiodd y Bwrdd ymgynghoriad ar ei gynigion i:

  • ddiwygio sut y caiff cyflogaeth aelodau o deulu’r Aelod a phartneriaid ei hariannu;
  • gyflwyno diwrnodau braint i staff cymorth;
  • gyflwyno polisi ffurfiol ynghylch absenoldeb tosturiol i staff cymorth;
  • addasu cyflog staff cymorth ym mis Ebrill bob blwyddyn yn ôl y newid yn yr Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion.

Trafododd y Bwrdd yr ymatebion a ddaeth i law yn ei gyfarfod ar 17 Ionawr, a chytunodd i ddiwygio ei gynigion gwreiddiol. Nodir y manylion llawn am benderfyniadau’r Bwrdd yn y llythyr diweddaru.

Mae'r Bwrdd wedi cyhoeddi ei adroddiad ar yr Adolygiad o’r Cymorth Staffio

Rheswm dros ei ystyried: Bwrdd Taliadau;

Math: Er gwybodaeth

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/03/2018

Dogfennau

Ymgynghoriadau