Gwerthu Cymru i’r Byd

Gwerthu Cymru i’r Byd

Mae Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau wedi cynnal ymchwiliad i Werthu Cymru i'r Byd.

 

Crynodeb

Diben yr ymchwiliad yw rhoi trosolwg i'r Pwyllgor o'r hyn sydd wedi cael ei wneud hyd yma o ran gwerthu Cymru i wledydd tramor a beth y gellid ei wneud yn y dyfodol, yn bennaf drwy feysydd marchnata, twristiaeth a sgiliau/hyfforddiant.

 

Mae'r Pwyllgor yn rhoi sylw i'r materion a ganlyn:

  • Sut y mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn gwerthu Cymru i'r Byd ar hyn o bryd o ran masnach, twristiaeth a sgiliau/hyfforddiant;
  • Swyddogaeth swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru;
  • Cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i allforwyr, a mewnfuddsoddi;
  • Ymwybyddiaeth o wefan 'Wales.Com' ac yn benodol y cymorth a gynigir gan Busnes Cymru;
  • Eglurder a chryfder “brand” Cymru o ran twristiaeth ryngwladol;
  • Llwyddiant ryngwladol gweithgareddau marchnata Croeso Cymru;
  • Sut y mae colegau/prifysgolion yn hyrwyddo astudio rhyngwladol yng Nghymru;
  • Sut y gall Llywodraeth Cymru helpu o ran denu digwyddiadau rhyngwladol mawr i Gymru;
  • Y defnydd a wneir o gymorth gan yr Undeb Ewropeaidd ac effaith gadael yr UE;
  • Beth y gall Cymru ei ddysgu gan wledydd o faint tebyg.

 

Math o fusnes: Ymchwiliad Pwyllgor

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 07/07/2017

Dogfennau

Ymgynghoriadau