NDM6340 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6340 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM6340 Paul
Davies (Preseli Sir Benfro)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1.
Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg uwch ran amser yn ei wneud i economi
Cymru, yn arbennig yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
2.
Yn cefnogi mentrau fel Wythnos Addysg Oedolion ac yn cydnabod pwysigrwydd
cyfleoedd addysg oedolion ac addysg yn y gymuned i Gymru.
3.
Yn croesawu'r pecyn cymorth arfaethedig ar gyfer addysg uwch ran amser a
myfyrwyr rhan amser a gyflwynwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i Adolygiad
Diamond.
4.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a)
darparu gwasanaeth cyngori ac addysg ym maes gyrfaoedd i bob oedran sy'n rhoi
parch cydradd i opsiynau astudio llawn amser a rhan amser, yn cefnogi cynnydd i
bobl sydd mewn cyflogaeth cyflog isel, ac yn cydnabod manteision ehangach
addysg oedolion ac addysg yn y gymuned tuag at wella iechyd a llesiant; a
b)
buddsoddi mewn addysg oedolion ac addysg yn y gymuned er mwyn hwyluso llwybrau
i addysg bellach ac addysg uwch, a thrwy'r opsiynau hynny.
Math o fusnes: Dadl
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/06/2017
Angen Penderfyniad: 28 Meh 2017 Yn ôl Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd